Mae angen Cydlynydd newydd ar ein ensemble ieuenctid anhygoel, AVANC. Mae’n swydd ran-amser, yn gweithio gartref, i rhywun sy’n siarad Cymraeg.

Ein man cychwyn
Mae Trac Cymru yn darparu ysbrydoliaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i unigolion a phrosiectau er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. ‘Rydym yn rhoi’r hyder a chefnogaeth i artistiaid gwerin arddangos eu talentau rhyfeddol i’r byd mawr crwn. Ein cenhadaeth yw datblygu celfyddydau perfformio gwerin Cymreig fel traddodiad byw, i’w rhannu a’i fwynhau gan gynulleidfaoedd a pherfformwyr ar bob lefel, yng Nghymru a ledled y byd, fel ei gilydd.

AVANC yw enw llwyfan Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru, sef un-ar-ddeg o’n perfformwyr mwyaf talentog. Mae’r ensemble hanner ffordd drwy brosiect ddwy-flynedd a fydd yn cynnwys ymarferion ar benwythnosau, mentora arlein, ymddangos mewn gwyliau, allgymorth cymunedol a mwy. O dan arweiniad eu Cyfarwyddwr Artistig, Patrick Rimes, mae Avanc yn gosod y seiliau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o berfformwyr gwerin.

Mwy ar Avanc yma www.avanc.cymru

Beth sydd angen arnom ni
Chi fydd conglfaen y prosiect hwn, yn sicrhau bod popeth yn digwydd fel y dylai, a chi fydd y prif gyswllt ar gyfer y band. Bydd y mwyafrif o’ch gwaith yn cael ei wneud arlein o’r cartref, a byddwch yn cadw’r tîm o diwtoriaid, rheolwyr Trac Cymru a’r band mewn cyswllt â’i gilydd, ac yn chwarae rhan sylweddol yn y broses o ymestyn allan arlein at gerddorion ifanc, a lle bynnag y bydd Avanc yn perfformio.

Bydd y rȏl hon yn lleifaswm o 0.4 FTE (2 diwrnod yr wythnos, ar gyfartaledd) yn dechrau ar 5 Ionawr 2022 tan 31 Hydref 2022 sef diwedd y prosiect.

£9,200 p.a. yw’r cyflog (£23,000 pro rata).

Mae Trac Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal. Ein nod bob amser yw recriwtio’r person gorau am y swydd, ac yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir.

Yr hyn fyddwch yn gwneud
Fel cydlynydd, bydd eich gwaith yn ymwneud â thri maes sydd yr un mor bwysig:

Cadw Avanc yn gyfredol

•  Byddwch yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau Avanc, gan ymateb yn amserol i’w ymholiadau ac yn gofyn cymorth staff Trac Cymru pan fydd angen.
•  Cyfathrebu’n gyson gydag Avanc drwy ebost, y ffȏn a/neu ar Facebook ynghylch gweithgareddau ac argaeledd ar gyfer perfformiadau, a threfnu hyfforddiant a sesiynau mentora i’r Avancwyr.
•  Sicrhau bod cofnodion aelodau Avanc yn gyfredol: manylion cyswllt, cyfeiriadau, tanysgrifiadau ayyb
•  Helpu gyda’r gwaith o gynnal a chadw gwefan Avanc (Wix) pan fod angen gwneud hynny, a sicrhau bod y gwaith cysylltiadau cyhoeddus yn digwydd.

Rheoli’r prosiect gyda Trac Cymru

•  Cyfarfod yn wythnosol (arlein) gyda Chyfarwyddwr Artistig yr ensemble a staff Trac Cymru i drefnu amserlen gweithgareddau a chynnwys, ac hysbysu staff Trac Cymru o’r cynnydd sy’n cael ei wneud.
•  Cynnal ffeil y prosiect ar GDrive er mwyn diweddaru’r staff ynghylch cynnydd, gan gynnwys cofnod o’r oriau a weithiwyd.
•  Darparu ystadegau ar weithgareddau’r prosiect, cofnodi’r nifer o sesiynau hyffordiant, niferoedd yn y cynulleidfaoedd, y nifer sy’n mynychu gweithdai ayyb.
•  Sicrhau bod gofynion y cyllidwyr yn cael eu diwallu – llunio adroddiadau amserol, credydau logo ayyb.

Cysylltiadau allanol a gwaith datblygu

•  Cysylltu â thiwtoriaid, lleoliadau a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n rhan o’r prosiect ynghylch hyfforddiant, gwasanaethau proffesiynol, ffioedd ac anfonebu ayyb. Sicrhau bod anfonebau yn cyrraedd Rheolwr y Cwmni mewn da bryd fel bod modd eu talu.
•  Trefnu gweithdai mewn ysgolion ac yn y gymuned i gyd-fynd â gwyliau a gweithgareddau perfformio, a sicrhau bod Avanc yn cyrraedd y gynulleidfa fwyaf posibl.
•  Mynychu cynadleddau, perfformiadau a digwyddiadau preswyl yn ȏl y gofyn, gan drefnu’r rhain yn erbyn eich oriau gwaith arferol, a hynny mewn ymgynghoriad â staff Trac Cymru.

Ai chi yw hwn?
Ydych chi’n berson sy’n:
•  meddu ar brofiad o farchnata a chyfathrebu, gorau oll os oedd y profiad hwnnw yn y sector celfyddydol
•  sydd am fod yn rhan o rywbeth pwysig ‘rydych wir yn credu ynddo
•  cael eich cyffroi gyda’r syniad o weithio i fudiad bach a deinamig sy’n tyfu’n gyflym, a sy’n meddu ar weledigaeth fyd-eang.
•  dangos awydd dwfn a gonest i gadw a meithrin celfyddydau perfformio traddodiadol Cymru (efallai eich bod chi’n gerddor hefyd)
•  hoffi manylder, ac yn ddibynadwy
•  hyblyg, yn gallu ymdopi o bryd i’w gilydd â therfynnau amser tynn, ac yn gallu troi ei law/llaw at yr hyn sydd angen ei wneud
•  dda gyda phobl, yn ddoeth ac adeiladol
•  ddi-droi’n-ȏl. Os nad ydych yn llwyddo ar y cychwyn, ‘rydych yn dyfalbarhau tan eich bod yn gwneud, ac yn dysgu yr hyn sydd ei angen i lwyddo i wneud hynny ddigwydd. Mae gennych y gallu i weithio pethau allan, a gweld pendraw’r broblem.
•  gallu rheoli eich amser yn dda. ‘Rydym yn dîm bach ac yn croesawu menter, ond hefyd yn credu mewn ffiniau ac yn croesawu’ch gallu i reoli’ch ffiniau eich hunain.
•  broffesiynol ac yn hapus i drafod gyda phobl ar bob lefel, ar y ffȏn neu wyneb-yn-wyneb

Profiad a chymwysterau hanfodol
•  Yn rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg
•  Profiad o reoli prosiect
•  Talu sylw at fanylion
•  Y gallu i weithio’n hyblyg o gartref
•  Meddu ar fynediad at eich cludiant eich hun, ynghyd â thrwyddedd yrru lân, gyfredol.
•  Yn gyfarwydd â phecynnau swyddfa modern, gan gynnwys GDrive a MS Office
•  Bod â’r hawl i weithio yn y DU

Profiad bonws
•  Mae gennych ddiddordeb byw yn niwylliant gwerin Cymru, ac ‘rydych am ddenu mwy o bobl i gymryd rhan ynddo.
•  Mae gennych brofiad o drefnu gweithgareddau allgymorth i ysgolion a / neu grwpiau cymunedol.
•  ‘Rydych wedi bod yn rhan o sîn gwerin Cymru ac yn gysurus yn ein byd.

Sut i wneud cais
Os taw hwn yw’r cyfle ‘rydych wedi bod yn chwilio amdano, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Danny KilBride, ein Cyfarwyddydd, yn cyfarwyddydd@trac-cymru.org i esbonio pam taw chi yw’r person perffaith ar gyfer y rȏl.

Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus drwy ebost i drefnu cyfweliad.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Rhagfyr 6 2021; byddwn yn cynnal y cyfweliadau yn ystod mis Rhagfyr a bydd y swydd yn cychwyn yn y Flwyddyn Newydd. Edrychwn ymlaen at glywed oddiwrthoch chi.

Os am sgwrs anffurfiol am y rȏl hon, cysylltwch â Danny KilBride, ein Cyfarwyddydd, yn y cyfeiriad ebost uchod.

Skip to content