Rydym yn gyffrous ac yn falch o gyhoeddi ein bod yn hwyluso prosiect ysgol newydd o’r enw Gwerin Glas, diolch i gyllid prosiect ‘Explore’ gan Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Bydd Gwerin Glas yn cyflwyno plant ysgol gynradd i gerddoriaeth draddodiadol Gymraeg drwy gyfres o weithdai. Bydd y gweithdai hyn yn cael eu cyflwyno gan gerddorion ac addysgwyr profiadol, a byddant yn rhoi profiadau cyntaf i’r plant, a chyfle i ymgysylltu â math o gerddoriaeth sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant a hanes Cymru. Nod y prosiect yw meithrin cariad at gerddoriaeth draddodiadol Gymreig mewn pobl ifanc, a’u hysbrydoli i barhau â’u taith gerddorol y tu hwnt i’r rhaglen.

Bydd Gwerin Glas yn darparu profiad dysgu hygyrch a gafaelgar i blant a fydd yn helpu i feithrin cariad gydol oes at gerddoriaeth a’r celfyddydau gwerin, gyda’r gobaith o’u hysbrydoli i barhau i ddilyn eu diddordebau cerddorol y tu hwnt i’r gweithdai. Byddwn yn darparu cefnogaeth bellach i athrawon sy’n dymuno archwilio’r traddodiadau hyn ymhellach trwy greu pecynnau adnoddau a fydd ar gael i bob ysgol. Bydd hefyd ein hadnoddau presennol sydd ar gael trwy ein gwefan yma.

Ochr yn ochr â’r manteision adnabyddus o greu cerddoriaeth, mae ymgysylltu â’r celfyddydau traddodiadol yn dod â chyfleoedd a buddion unigryw, megis mwy o sgiliau iaith Gymraeg a’r cyfle i ymgysylltu â thraddodiadau sydd wedi’u pasio i lawr dros genedlaethau. Mae’r Gymraeg yn rhan gynhenid o’r traddodiad gwerin yma yng Nghymru; Gall rhannu ein traddodiadau gwerin helpu i greu ymdeimlad o berchnogaeth o’r Gymraeg i blant cyfrwng Cymraeg ac i’r rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Gall cymryd rhan yn y traddodiadau hyn ein helpu i deimlo ymdeimlad o berthyn yn y gymuned, ar lefel leol a chenedlaethol. 

Rydym wedi gweld yn uniongyrchol drwy ein prosiectau blaenorol sut y gall y traddodiadau hyn fod yn allweddol i ddatgloi Cymraeg i bobl nad ydynt wedi cael y cyfle i gael y Gymraeg o’r blaen. 

Y ddwy ysgol gyntaf i gymryd rhan yn Gwerin Glas oedd Ysgol Bryncethin ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac Ysgol Capelulo yng Nghonwy. Angharad Jenkins a Patrick Rimes oedd arweinwyr ein sesiynau ac arweiniodd bedair sesiwn grŵp rhyngddynt. Cafodd y grwpiau gyfle i glywed Patrick ac Angharad yn siarad am gerddoriaeth draddodiadol Gymreig ac i’w clywed yn perfformio. Yna dysgodd y grwpiau i ganu Mi Welais Jac y Do, a ddefnyddiwyd wedyn i ddysgu dawnsio Jac y Do.

Rydym wedi cael adborth hyfryd gan yr ysgolion, ac ni allwn aros i fwynhau mwy o sesiynau gydag ysgolion ledled Cymru. 

Adborth:

Athrawes: ‘Roedd y plant yn mwynhau dysgu am Gerddoriaeth Werin a thraddodiadau Cymraeg gwahanol. Roeddent yn ymgysylltu’n llawn ac yn awyddus iawn i ddysgu mwy trwy ofyn llawer o gwestiynau diddorol.’

Disgybl: ‘Roedd y gerddoriaeth yn braf iawn, roeddwn wrth fy modd â’r dawnsio ac roedd yn braf bod yn egnïol. Ro’n i’n hoff iawn o glywed cerddoriaeth werin o bob cwr o’r byd’

Patrick Rimes yn cynnal gweithdy yn Ysgol Capelulo yng Nghonwy

Angharad Jenkins yn cynnal gweithdy yn Ysgol Bryncethin ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Skip to content