Mae y cwrs poblogaidd  Gwerin Iau yn dychwelyd i Wersyll yr Urdd Glan-llyn dros benwythnos olaf hanner tymor Chwefror, a hynny mewn trefniant ar y cyd rhwng Trac Cymru a Urdd Gobaith Cymru. Mae hwn yn gyfle arbennig i blant 8-13 oed ddod ar gwrs preswyl i Lan-llyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwerin; yn ganu, dawnsio, chwarae offerynnau a hynny yn gymysg a gweithgareday anturus Gwersyll Glan-llyn. 

Bydd yr elfennau cerddorol yn cael eu harwain gan 3 unigolyn blaenllaw yn eu meysydd – y gantores a’r delynores o’r grwp Pedair – Gwenan Gibbard, y ffidlwraig a chantores Angharad Jenkins o’r gwp Calan a’r darlledwr a chlocsiwr heb ei ail – Tudur Phillips. 

Bydd y cwrs yn rhedeg o 12pm Dydd Gwener Chwefror 16, hyd at 4pm Dydd Sul Chwefror 18. Pris £160.

Mae y pris yn cynnwys llety, bwyd, hyfforddiant, gweithgareddau a gofal plant. Os oes digon o alw gellir trefnu bws o dde Cymru am £35 ychwanegol.  

Bwrsari / ADY 

Gellid gwneud cais i gael lle wedi ei dalu gan fwrsari 

Os oes gan y mynychwyr  ADY, gallwn ddarparu cefnogaeth ychwanegl yn unol a’r anghenion.

Am y ddau fater hyn cysylltwch a jordan@trac-cymru.org / 07467184143

Brysiwch i gorfestru – lle i 50 yn unig! 👇

Cofrestrwch yma

Skip to content