Avanc yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Agwedd bwysig ar gerddoriaeth draddodiadol yw ymchwilio a darganfod cerddoriaeth a gasglwyd gan gerddolegwyr y gorffennol. Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad helaeth o lawysgrifau sy’n cynnwys cerddoriaeth o’r fath, mae llawer ohonynt wedi’u digideiddio. Mae Avanc – Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru, wedi treulio sawl sesiwn gyda Nia Mai Daniel Pennaeth Uned Llawysgrifau, Delweddau Gweledol, Mapiau a Cherddoriaeth yn LlGC yn archwilio eu harchifau digidol ac mae llawer o’r alawon a geir yn yr adnodd anhygoel hwn wedi cael eu cynnwys yn repertoire Avanc. Rydym wedi casglu’r alawon mae Avanc wedi’u darganfod a’u cyflwyno yma, gyda phob alaw wedi’i dewis gan aelod o’r prosiect. Ar y dudalen adnoddau hon fe welwch gopïau o’r alawon yn eu llawysgrifau gwreiddiol yn ogystal â thrawsgrifiadau a dolenni lle gallwch weld yr archifau digidol.