3.2 O bryd i’w gilydd dadansoddwn y data hwn i fesuro’r defnydd ar ein gweinyddion, nifer y tudalennau yr ymwelir â hwy a lefel y galw arnynt a’r pynciau sydd o ddiddordeb. Mae’n bosibl y cedwir y cofnodion hyn am byth a’u defnyddio ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw ffordd i atal tanseilio diogelwch a sicrhau uniondeb y data ar ein gweinyddion.
3.3 Defnyddiwn wahanol dechnolegau i’w wneud, ac un ohonynt yw ‘cwcis’. Elfen o ddata yw cwci y gall y wefan ei hanfon at eich porydd y gellid ei gadw ar eich gyrrydd caled.
3.4 Gosodwn cwci i drafod dewis iaith ac unrhyw ail-lwytho ffurflenni. Nid ystyrir y cwci parti cyntaf yn un dewisol.
3.5 Defnyddiwn 5 cwci trydydd parti a osodir gan Google Analytics (GA). Rydym yn defnyddio GA i gasglu gwybodaeth ddienw am ymweliadau gwefan i’n helpu i wneud ein profiad gwefan yn well. Rydym hefyd yn defnyddio GA ar y cyd â data chwilio i nodi pa mor aml y caiff y cynnwys ei chwilio a’i weld.
Ni ddefnyddiwn y wybodaeth i dargedu hysbysebion neu drosglwyddo data i unrhyw rai eraill. Bydd y wefan yn gweithio heb gwcis GA. I ddiffodd cwcis GA yn eich porydd, dilynwch y ddolen hon http://www.aboutcookies.org/
4. Cydymffurfiad Preifatrwydd
Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth ganlynol:
Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
Deddf Diogelu Data 1998 a 2005
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Deddf Cofnodion Cyhoeddus 1958 ac 1967
5. Cael Gafael ar Eich Data Personol
5.1 Gallwch ofyn inni a ydym yn cadw data personol amdanoch a gallwch hefyd ofyn am gopi o’r data personol hwnnw. Cyn anfon unrhyw ddata personol atoch byddwn yn gofyn am brawf o’ch hunaniaeth. Oni allwch ddarparu prawf o’r fath, cedwir yr hawl i wrthod anfon eich data personol atoch.
5.2 Gwneir pob ymdrech i ymateb yn amserol i’ch ceisiadau neu i gywiro unrhyw gamgymeriadau yn eich gwybodaeth bersonol. Gallwch ofyn inni ddileu neu gywiro’r wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch ar unrhyw adeg. Cyfeiriwch ymholiad o’r fath at Reolydd Trac Cymru , ar trac@trac-cymru.org
Cytunwyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Trac Cymru ar 20 Medi 2022.