Annwyl gefnogwyr a ffrindiau,
Mae gennym newyddion pwysig i’w rannu ynglŷn â chyllid Trac Cymru. Ar ôl Ebrill 1af, ni fyddwn yn derbyn ein cyllid gweithredol craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru bellach. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth drwy gydol y blynyddoedd. Mae eu cyfraniadau wedi bod yn allweddol wrth alluogi ni i hyrwyddo celfyddydau a diwylliant traddodiadol Cymru, ac am hynny, rydym yn hynod o ddiolchgar.
Fodd bynnag, mae’r penderfyniad hwn yn bygwth cael effaith drychinebus, nid yn unig i Trac Cymru ond i unrhyw un sy’n angerddol am gadw cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn fyw. Ni fydd unrhyw sefydliad yn cymryd cyfrifoldeb am hyfforddi’r cenedlaethau newydd o gerddorion gwerin nac am eu helpu i wneud gyrfaoedd llwyddiannus; dim mentrau sy’n cefnogi pobl ifanc i greu caneuon newydd i’w cymunedau, na dod o hyd i gymuned o gerddorion sy’n rhannu eu cariad tuag at ein traddodiadau.
Yn 2003 fe wnaethon ni anfon deg merch ifanc i wersyll gwerin yn Sweden er mwyn iddyn nhw allu gweld eu hunain rym aruthrol cerddoriaeth werin i newid bywydau. Maent i gyd yn gerddorion gweithgar erbyn hyn. Mae rhai yn gerddorion proffesiynol sy’n teithio’r byd. Mae rhai yn dysgu canu gwerin a dawnsio clocsio mewn ysgolion cynradd. Mae rhai jyst yn mwynhau chwarae’r ffidil gyda’u ffrindiau. Mae pob un ohonynt wedi dod â chenedlaethau newydd o gerddorion ifanc o Gymru, sydd yn eu tro yn dod â’n treftadaeth fyw i’r byd ac yn bwysicach i’w pentrefi, ysgolion, capeli a chartrefi.
Mae ein gwaith wedi cyrraedd dros 188,000 o bobl. Mae rhai ohonynt yn gynulleidfaoedd yn Nhŷ Gwerin, ein partneriaeth arloesol gyda’r Eisteddfod Genedlaethol; llawer ohonynt fel oedolion ar ein Harbrawf Mawr (BEAM) sydd bellach yn defnyddio eu hamser hamdden i redeg gweithdai gwerin eu hunain dros y flwyddyn. Yn fwy diweddar rydym wedi gweithio gyda llawer o bobl ifanc mewn prosiectau gweithdai cerdd fel Gwerin Gwallgo a Gwerin Iau, a helpodd i greu ein Hensemble Gwerin Ieuenctid Cymru gyntaf (AVANC) sydd bellach yn fand gwerin annibynnol uchel ei barch sy’n perfformio ledled Cymru ac Ewrop mewn gwyliau fel Festival Interceltique de Lorient.
Dywed Cyngor y Celfyddydau eu bod yn bwriadu ymgymryd ag ‘ymyrraeth strategol’ yn y dyfodol. Ond mae hynny’n debygol o arwain at ryw fath o fwlch, efallai o flynyddoedd, cyn y bydd unrhyw sefydliad yn cael ei gefnogi i wneud graddfa’r gwaith a wnawn nawr. Maen nhw’n gobeithio gallu cynnig mwy o gefnogaeth i’n cerddoriaeth draddodiadol yn y pen draw ond mae’r pandemig wedi ein dysgu nad yw llawer o bethau’n aildyfu’n gyflym, os ydyn nhw’n dod yn ôl o gwbl.
Rydym yn ceisio mynd i’r afael â hyn gydag agwedd bositif a phenderfynol. Mae Trac Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i warchod a dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru a rhai prosiectau a ariennir yn allanol, gan gynnwys prosiect 3 blynedd Cân y Cymoedd. Bydd hyn yn parhau i fod wrth wraidd ein hymdrechion. Fodd bynnag, mae ein cynllun i gyrraedd i mewn i’r cwricwlwm newydd a sicrhau bod pob disgybl yn y wlad yn cael cyfle i ddarganfod ein caneuon gwerin bellach dan fygythiad. Mae ein cynlluniau i gyrraedd holl gymunedau Cymru drwy gael aelodau staff ymroddedig sy’n gweithio mewn hybiau lleol wedi cael eu gwthio yn ôl am gyfnod amhenodol. Gallai ein gwasanaeth newyddion ar-lein, cylchlythyrau a gwefan ddiflannu. Gallem fod yn ôl i’r 1990au, pan nad oedd llawer o adnoddau ar gael i gefnogi ein celfyddydau traddodiadol.
Ond gallwch chi helpu.
Mae angen i chi sefyll gyda ni nawr, ein cefnogi a bod yn rhan o’n taith. Bydd eich help, o ran rhoddion, cyllid a lledaenu ymwybyddiaeth, yn amhrisiadwy. Cadwch lygad am fwy o wybodaeth am ein hymgyrch rhoddion sydd ar ddod.
Estynnwn ddiolch enfawr i bob un ohonoch sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd. Mae eich cred yn ein cenhadaeth wedi bod yn rym i ni, ac rydym yn hynod ddiolchgar am eich ymddiriedaeth a’ch anogaeth. Wrth i ni gychwyn ar y bennod newydd hon, rydym yn parhau’n gadarn yn ein hymrwymiad i warchod traddodiadau a diwylliannau bywiog Cymru. Fe’n gelwir yn Wlad y Gân am reswm. Nawr yw’r amser i godi ein lleisiau. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod tapestri diwylliannol Cymru yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.
Gyda chofion cynnes,
Tîm Trac Cymru.