Mae Trac Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth a dawns draddodiadol Gymreig fel conglfaen i’r tirlun diwylliannol cenedlaethol ers dros 20 mlynedd gyda’n hanes profedig o feithrin mynegiant artistig, cadw treftadaeth, ac ymgysylltu â chymunedau. Credwn yn gryf yng ngrym trawsnewidiol y celfyddydau a phwysigrwydd cadw a hyrwyddo traddodiadau diwylliannol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru i beidio â pharhau â’n cyllid aml-flwyddyn yn peryglu cynaliadwyedd ein rhaglenni ac effaith gadarnhaol mae ein mentrau yn cael ar gymunedau a cherddorion Cymru.

O ganlyniad, mae Trac Cymru wedi penderfynu apelio yn erbyn y penderfyniad hwn i sicrhau parhad ein gweithgareddau, sydd wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu celfyddydau traddodiadol Cymreig yng Nghymru a ledled y byd, yn meithrin creadigrwydd, cynwysoldeb ac ymdeimlad o berthyn. 

Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan ein rhanddeiliaid, partneriaid a’r cyhoedd dros y blynyddoedd ac yn ystod yr wythnosau diwethaf hyn, yn ogystal â Chyngor Celfyddydau Cymru am eu buddsoddiad hir yn ein gwaith hyd yn hyn. 

Rydym yn croesawu eu hymrwymiad i ddechrau adolygiad strategol o sut y gellir cefnogi ein celfyddydau traddodiadol yn well yn y tymor hir a’u cydnabod o’r cyfraniadau amhrisiadwy y mae Trac Cymru wedi’u gwneud a byddant yn parhau i’w gwneud i wead diwylliannol Cymru. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i’n cenhadaeth a byddwn yn mynd ati i ddilyn yr holl lwybrau sydd ar gael i sicrhau’r cyllid angenrheidiol i barhau â’n gwaith a’n prosiectau sydd i ddod. 

Rydym yn hyderus, gyda chefnogaeth barhaus y gymuned gwerin Gymreig a’n rhanddeiliaid, y gallwn oresgyn yr her hon a pharhau â’n hymdrechion i gyfoethogi bywyd diwylliannol Cymru. 

Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau a gwybodaeth bellach, cysylltwch â: 

megan@trac-cymru.org

seren@trac-cymru.org

Skip to content