Gwobrau Gwerin Cymru 2019

Y Wobrau

Ar yr 11eg o Ebrill 2019, dathlodd Cymru lwyddiant diweddar ei sîn werin gyda’i Gwobrau Gwerin newydd sbon ei hun.

Dathlodd y gwobrau perfformwyr talentog y sin gerddoriaeth gwerin a thraddodiadol Cymru sydd wedi blodeuo yma yng Nghymru yn ogystal â gwneud argraff sylweddol mewn gwyliau ar draws y D.U. a thramor.. Yn 2018 Cymru oedd Partneriaid Rhyngwladol y gŵyl arddangos ‘English Folk Expo’, ym Manceinion. Cymru hefyd oedd y wlad o dan sylw yng ngŵyl enfawr ryng-geltaidd An Oriant yn Llydaw sy’n croesawu 70,000 o ymwelwyr bobl blwyddyn. Perfformiodd y band talentog Alawyn y Neuadd Frenhinol Albert yn Awst 2018 fel rhan o Proms Gwerin y BBC.

Mae Gwobrau Gwerin Cymru wedi ei greu gan bartneriaeth rhwng Trac Cymru, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a a ffigurau sylweddol byd cerddoriaeth werin Cymru fel Huw Williams a Stephen Rees. Cafodd y gwobrau yn cael eu cyflwyno ar y 11eg o Ebrill mewn noswaith o ddathlu yn Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, gyda derbyniad a noddir yn hael gan British Council Cymru. Cafodd y noswaith yn cael ei ddarlledu yn hwyrach ar raglen Frank Hennessy Celtic Heartbeat ar BBC Radio Wales ac ar Sioe Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru. Roedd perfformiadau byw trwy gydol y noson gan The Trials of Cato, Gwilym Bowen Rhys, VRï a Calan.

Cafodd yr enillwyr eu dewis o restr hir cafodd ei lunio gan y panel enwebu oedd yn cynrychioli trefnwyr clybiau a gwyliau, cerddorion ifanc, yr hen do, newyddiadurwyr, darlledwyr, hyrwyddwyr, ymgyrchwyr a selogion.

Bwriadwyd Gwobrau Gwerin Cymru i fod yn ddigwyddiad dwyflynyddol; yn sgil Covid rydym yn gobeithio cynnal y Gwobrau nesaf yng ngwanwyn 2023.

Ennillwyr 2019

Dyma’r enillwyr a’r rhestrau byrion:

Y grŵp gorau

Alaw
Calan- ENNILLWYR
Jamie Smith’s Mabon
VRï

Yr artist/band gorau sy’n dechrau dod i’r amlwg

NoGood Boyo
Tant
Trials of Cato- ENNILLWYR
VRï

Y gân Gymraeg wreiddiol orau

Bendigeidfran- Lleuwen – ENNILLYDD
Cân y Cŵn- Gwyneth Glyn
Swn ar Gardyn Post- Bob Delyn a’r Ebillion
Y Gwyfyn- The Gentle Good

Y trac offerynnol gorau

Cyw Bach – VRï
Dawns Soïg/ Dawns y Gŵr Marw- Alaw – ENNILLWYR
Diddanwch Gruffydd ap Cynan – Delyth & Angharad
Mayfair at Rhayader 1927- Toby Hay

Yr artist unigol gorau

Cynefin
Gwilym Bowen Rhys – ENNILLYDD
Gwyneth Glyn
The Gentle Good

Yr albwm gorau

Dal i ‘Redig Dipyn Bach – Bob Delyn a’r Ebillion
Llinyn Arian – Delyth & Angharad
Solomon – Calan
Tŷ ein Tadau – VRï – ENNILLWYR

Y gân Gymraeg draddodiadol orau

Ffoles Llantrisant – VRï – ENNILLWYR
Lliw Gwyn – Pendevig
Santiana – Alaw gyda Gwilym Bowen Rhys
Y Mab Penfelyn – Bob Delyn a’r Ebillion

Y gân Saesneg wreiddiol orau

Fall and Drop – Tagaradr
Far Ago – Gwyneth Glyn
Here Come The Young – Martyn Joseph – ENNILLYDD
These Are The Things – The Trials of Cato

Y perfformiad byw gorau

Calan
Jamie Smith’s Mabon
Pendevig – ENNILLWYR
Yr Hwntws

Cyflwynwyd y Wobr Cyflawniad Oes i Roy Saer am ei ddegawdau o waith ac ysgoloriaeth gyda chaneuon traddodiadol Cymru. Dechreuodd Roy gasglu a recordio caneuon gwerin Cymru yn y 1960au ac mae ei gasgliad yn graidd i’r archif canu gwerin yn Amgeuddfa Werin Sain Ffagan.

Aeth y Wobr Werin am y casgliad gorau o dair alaw wreiddiol i Huw Roberts o Fôn; adnabyddus am chwarae’r offerynnau Cymreig eiconig y delyn deires a’r crwth, yn ogystal â’r ffidil.

Dau grefftwr o Sir Gâr luniodd y tlysau – y gôf Aaron Petersen a’r turniwr coed John Morgan. Fe’u seliwyd ar ganwyllbren cannwyll frwyn o’r G18; mae pob un yn unigryw ac wedi’i lunio o bren lleol. Mae gan y tlysau gysylltiad gwerinol teuluol – bu’r gôf David Petersen, tad Aaron, yn arwain y Ddirprwyaeth Cymreig yng Ngwyl Ryngwladol Lorient am flynyddoedd lawer, ac mae ei nai Sam yn aelod o Avanc, Ensembl Gwerin Ieuenctid Cymru, sy’n brosiect Trac Cymru.

Dilynwch ni ar Trydar: https://twitter.com/GwobrauGwerin a Facebook: https://www.facebook.com/Gwobrau-Gwerin-Cymru-Wales-Folk-Awards-308134566528543/