Un o nodau Trac Cymru yw sicrhau teimlad mai traddodiadau gwerin Cymru yw calon gynnes bywyd cyfoes yng Nghymru, gyda’n halawon yn goroesi ac yn ffynnu yn y blynyddoedd sydd i ddod. Ers blynyddoedd lawer rydym wedi cydweithio â nifer fawr o gerddorion gwych a brwdfrydig i sefydlu Clybiau Alawon lleol, er mwyn rhannu’r llawenydd sydd mewn dysgu a chwarae cerddoriaeth Gymreig.

Un o’r cerddorion brwdfrydig hynny, a sylfaenydd un o’r Clybiau Alawon, yw’r ffidlwraig egnïol Helen Adam. Esboniodd Helen ei thaith ei hun gyda’r sefydliad: “Profiad llawr gwlad sydd gen i o weithio gyda Trac, a cherddoriaeth gymunedol yw fy angerdd i mewn gwirionedd – cynnwys pobl yn y llawenydd sydd i’w gael o greu cerddoriaeth. Y peth arall rwy’n hynod angerddol yn ei gylch yw annog mwy o bobl i chwarae a gwerthfawrogi cerddoriaeth Gymreig. Tydi o ddim y mwyaf llachar, na’r mwyaf dramatig, ond mae’n gynnil ac yn hyfryd; dyma ein cerddoriaeth ni, gyda’i seiliau yn gadarn yng nghefn gwlad, ac mae gen i’r ymdeimlad yma fod cerddoriaeth yn bwrw gwreiddiau daearyddol.”

Mae Helen yn dwyn i gof y modd y sefydlwyd ei Chlwb Alawon gyda chymorth ariannol gan Trac: “Daethom ni i gyswllt yn wreiddiol oddeutu 2012, trwy brosiect o’r enw Sesiwn Dros Gymru, a hynny am fy mod i eisoes wedi cynnal ambell i weithdy yma ac acw, dwi’n meddwl.” Gofynnodd yr elusen i Helen gydlynu 10 gweithdy agored ledled De Orllewin Cymru, gan gynnwys Gŵyl Werin Abergwaun yn ogystal â lleoliadau mwy agored megis tafarn yn ei thref leol, Llandeilo; gweithdy a ddatblygodd maes o law yn Glwb Alawon rheolaidd.

Yn dilyn cymryd hoe am resymau iechyd, cafodd Helen ei hysbrydoli i ailgodi’r clwb yn rheolaidd unwaith eto ar ddechrau’r pandemig, a hynny o’i chartref: “Fe wnaethom ni gychwyn gyda phump neu chwech ohonom yn cwrdd yn yr ardd gyda’n masgiau ymlaen, a dau fetr rhyngom ni; bellach, mae’r grŵp yn dechrau tyfu eto ac mae wedi profi rhyw adfywiad. Mae yna amrywiaeth o bobl yn mynychu a rhai yn dod bob hyn a hyn. Eleni, rydym wedi perfformio mewn ambell i ddigwyddiad cyhoeddus gan gynnwys gŵyl leol a lansiad prosiect celfyddydol yng Nghwmgors.”

Mae Helen yn sgwrsio’n frwd am werth y Clwb Alawon fel fformat: “Mae’n ofod sy’n disgyn yn rhywle rhwng sesiwn a gweithdy – mae’n rhoi’r cyfle i bobl oedi a dweud, ‘Dydw i ddim yn deall hyn yn iawn, sut mae gwneud hyn?’ ond mewn modd rhydd iawn. Nid perthynas athro a disgybl sydd yma ond mae yna dameidiau o wybodaeth yn cael eu trosglwyddo’r un fath. Mae’n gweithio fel cylch, lle mae pawb yn gwrando ar ei gilydd, ac yn rhoi lle i ni ganolbwyntio ar y gerddoriaeth ond mewn ffordd gymdeithasol – mae’n ffordd wych o fondio fel cymuned.

“Rydw i’n credu fod yna dangynrychiolaeth a diffyg gwerthfawrogiad o gerddoriaeth Gymreig, ac mai hanfod y gerddoriaeth yw cynildeb. Rydych chi’n ei gwerthfawrogi’n fwy gyda phob gwrandawiad.”

“Roedd gwybod fod y gweithdai cychwynnol hynny yn digwydd gyda chefnogaeth ariannol gan Trac yn gwbl hanfodol gan ei bod yn anodd gwneud unrhyw beth fel cerddor proffesiynol heb y sefydlogrwydd yna. Roedd cael y sefydliad yn gefn i ni yn bwysig iawn gan ei fod yn rhoi dilysrwydd a chryfder i’r gwaith – yn ogystal â gwybod fod yna bobl eraill o gwmpas y gellid galw arnynt, a’r cyfle i greu cysylltiadau â cherddorion eraill o bob cwr o’r wlad. Mae’n teimlo fel bod gennych rywun wrth eich cefn ac nad ydych chi ar eich pen eich hun; fod gennych chi sefydliad i ddibynnu arno.”

Ymhlith gweithgareddau niferus eraill Helen y tu hwnt i sesiynau’r Clwb Alawon, mae hi hefyd wedi bod wrthi’n datblygu gwefan ardderchog o’r enw ‘Tunelines’, sy’n mapio casgliad o alawon yn ôl yr enwau lleoedd yn eu teitlau – gallwch ddod o hyd i ddolen at y prosiect hwn trwy gyfeirfa Trac Cymru. Mae’r alawon yn cynnwys y perfformiad hiraethus hwn o’r alaw Ym Mhontypridd Mae ’Mwriad, a drefnwyd gan Helen Adam ac a berfformiwyd yn fyw gan glwb alawon Llanilltud Fawr:

 

Gyda’ch cymorth chi, bydd Trac Cymru yn parhau i sicrhau y gall pob cymuned gael budd o’n diwylliant byw ac egnïol – ystyriwch gefnogi trwy gyfrannu heddiw. 

Helpwch ni i ddathlu llwyddiannau’r 21+1 mlynedd gyntaf o waith Trac Cymru trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21.

Skip to content