Cenhadaeth elusennol Trac Cymru yw sicrhau y gall ein treftadaeth gerddorol genedlaethol oroesi a ffynnu yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae i bob lle ei ganeuon ei hun ac rydym wedi bod yn gweithio ledled Cymru i adfer hen ganeuon ac alawon o niwloedd y gorffennol, a rhoi bywyd newydd iddynt yn eu cymunedau.

Pan fydd pobl yn darganfod fod eu hanes lleol yn cynnwys trac sain o ganeuon am y man lle maent yn byw, mae’n helpu i ddathlu a chryfhau eu hunaniaeth fel cymuned. Rydym wedi llwyddo i ddangos fod dod â phobl ynghyd i ddysgu caneuon gyda themâu oesol yn ffordd rymus o gryfhau cymunedau, ac yn gwneud cyfraniad mawr i lesiant y bobl leol.

Mewn prosiect bythgofiadwy, bu i Trac Cymru gomisiynu’r gantores Lynne Denman i ymchwilio i ganeuon oedd â chysylltiad â Sir Benfro er mwyn iddi eu dysgu i breswylwyr y sir, gyda’r bwriad o’u ‘hail-wylltio’ fel y gallai’r caneuon hynny fod yn rhan o seinwedd leol Sir Benfro unwaith eto. Roedd y caneuon yn coffau tirweddau a lleoedd lleol, ac yn llawn o gymeriadau a digwyddiadau’r ardal. Mewn prosiect arall, bu i ni gefnogi Elin Alaw yn y gwaith o gasglu alawon a chaneuon o Ddyffryn Conwy, ac fe’u dysgwyd wedyn i aelodau’r clwb gwerin lleol, Clwb Gwerin Conwy – gallwch glywed a dysgu’r caneuon prydferth hyn ar ein tudalen Soundcloud.

Aeth Bethan Nia â’i thelyn i Ystradgynlais er mwyn helpu Trac Cymru i ddysgu rhai o ganeuon Cwm Tawe i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg – roedd y plant wrth eu boddau yn dysgu’r caneuon, a chafodd Bethan brofi’r un llawenydd o weithio gyda disgyblion yn Nhorfaen.

Yn un o’n prosiectau cynharaf, bu i blant yn ardal Caerffili ddysgu cyfoeth o ganeuon lleol mewn prosiect a chafodd ei enwi ar ôl llyfr caneuon hanesyddol, Alawon Fy Ngwlad, gan gydweithio â’r gantores eiconig Heather Jones a’r swyddog datblygu’r celfyddydau lleol Kate Strudwick, a aeth ati i greu fersiynau Saesneg canadwy er mwyn helpu i bontio cysylltiadau â’r fersiynau gwreiddiol. Bu i ni ddarparu taflenni canu a phecyn addysgu er mwyn cynnig cyfoeth o adnoddau prosiect i’r ysgolion barhau â’u hymchwil, a chlywyd nifer fawr o’r caneuon ar fuarthau’r ysgolion ymhell wedi i’r prosiect ddod i ben, yn ogystal â mewn cyngherddau ac eisteddfodau ysgol.

Roedd prosiect Alawon Fy Ngwlad yn bartneriaeth rhwng Trac Cymru, Menter Caerffili a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – eto, gallwch fwynhau a dysgu’r caneuon ar ein tudalen Soundcloud.

Gyda’ch cymorth chi, bydd Trac Cymru yn parhau i ‘ail-wylltio’ llawer mwy o hen ganeuon swynol, gan roi bywyd newydd iddynt yn eu cymunedau lleol – ystyriwch roi cefnogaeth i ni trwy gyfrannu heddiw.

Helpwch ni i ddathlu llwyddiannau’r 21+1 mlynedd gyntaf o waith Trac Cymru trwy rannu ein straeon â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21.

Skip to content