Un o nodau Trac Cymru yw sicrhau ymdeimlad fod ein traddodiadau gwerin yn curo fel calon gynnes y genedl, ac mae hyn yn golygu ein bod yn awyddus i gynnwys pawb wrth greu a dysgu cerddoriaeth, ni waeth beth fo’u hableddau neu anableddau unigol.
Yn 2019, roeddem wrth ein boddau i gefnogi’r cerddor ifanc Ida Beckmann, sydd â Syndrom Down, wrth iddi ymuno yng nghwrs preswyl Gwerin Iau yng Nghanolfan yr Urdd yng Nglan-llyn. Esboniodd mam Ida, Liane Beckmann, mai ei merch, sy’n glarinetwraig frwd, oedd yr un a ofynnodd i’w theulu ddod o hyd i glwb lle gallai chwarae cerddoriaeth. Cwrs Gwerin Iau oedd yr unig ddosbarth ledled Cymru oedd ar gael iddynt:
“Bu cerddoriaeth yn rhan enfawr o fywyd fy merch erioed. Mae gan fy nheulu ddiddordeb cyffredinol mewn cerddoriaeth werin Gymreig. Yn ei symlrwydd y mae harddwch cerddoriaeth. Gall gysylltu’n awtomatig â’r ymennydd. Gall cerddoriaeth fod yn rymus ac yn hynod ddefnyddiol i bob oedolyn a phlentyn fel ei gilydd. Roedd Gwerin Iau yn anhygoel ac yn brofiad gwych i fy mhlentyn. Roedd Ida wrth ei bodd.
“Dwi’n meddwl fod cerddoriaeth o gymorth wrth ailddeffro atgofion, ac y gall o ganlyniad gynyddu’r mwynhad y mae pobl gyda chof tymor byr yn ei gael o fywyd. Mae cerddoriaeth mor bwysig i fy merch ac i lawer o bobl sydd â Syndrom Down – mae’n hysbys iawn fod dysgu i chwarae offeryn yn dda i lesiant ac iechyd meddwl person, yn ogystal â gwaith tîm, hunanddisgyblaeth, a hyd yn oed sgiliau mathemategol. Mae creu cerddoriaeth yn un o fendithion bywyd.”
Un o drefnwyr cwrs Gwerin Iau oedd Elisa Morris, sydd â pherthynas hirdymor â Trac Cymru gan gynnwys bod yn aelod o Avanc, Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Mae Elisa’n dwyn i gof iddi helpu i sicrhau fod y llety a’r sesiynau yn gwbl hygyrch ac wedi’u teilwra ar gyfer anghenion unigol Ida fel ei bod yn gallu ymlacio a rhoi cynnig ar yr holl sesiynau gwahanol oedd ar gael iddi: “Roedd hyn yn gyfle i Ida roi tro ar arddull gerddorol newydd, gan ei bod eisoes yn chwarae mewn rhai ffurfiau lled-glasurol ar y clarinét ac yn awyddus i gael profiad cerddorol gwahanol, yn ogystal â’r profiad preswyl. Roedd y gymysgedd honno, ynghyd â chael cymryd rhan yn y clocsio hefyd, yn fath gwahanol o symbyliad gyda phethau newydd iddi roi cynnig arnynt.”
Mae Ida hithau yn siarad yn gynnes iawn am y profiad. Yn ei geiriau ei hun: “Dwi’n gallu cofio mynd yno. Ro’n i’n ei hoffi’n fawr. Ia, plîs, dwi wrth fy modd yn mynd yno. Dwi’n hoffi chwarae fy nghlarinét. Roedd clocsio gyda’r tiwtor yn llawer o hwyl. Dwi’n cofio lliw’r clocsiau.”
Ida Beckmann (ail o’r chwith) ar gwrs Gwerin Iau yn 2019
Teimla Elisa mai un o’r pethau oedd yn rhoi’r mwyaf o foddhad am y profiad oedd gweld mor rhwydd y daeth Ida i deimlo’n gartrefol ymhlith yr holl gerddorion eraill: “Roedd hi mor lysh gweld yr aelodau eraill yn croesawu Ida trwy ddod yn ffrindiau – dwi’n meddwl fod hynny’n rhywbeth mawr, am fod pobl yn gwneud yr ymdrech o ddod ati i siarad a gwneud iddi deimlo’n rhan o’r digwyddiad.”
Mae Ida ei hun yn cytuno â hyn, fel y soniodd ei mam wrthym: “Mae Ida’n dweud mai ei hatgof gorau yw merch yn gofyn iddi, ‘Ga i eistedd wrth dy ymyl di?’, yn y bore wrth y bwrdd brecwast. Roedd Ida ar ben ei digon! Dyna’r tro cyntaf i rywun o’r un oed ofyn iddi’n uniongyrchol.”
Aeth yr integreiddio hwn yn ei flaen i’r perfformiad ar ddiwedd y rhaglen gan y cerddorion ifanc oedd yn cymryd rhan. Fel noda Elisa Morris: “Roedd ei chyfoedion mor falch o’i chael yn y sioe derfynol am iddi fod yn rhan mor greiddiol o’r cwrs. Mae gallu dangos fod cerddoriaeth werin wir yn hygyrch, ac y gall fod yn rhywbeth i bob oed a galluedd, a chynnwys niwroamrywiaeth hefyd, yn gwbl allweddol.”
Gan neidio ymlaen i 2022, dros yr haf eleni roedd Trac Cymru yn falch iawn o feithrin cyfnewidfa gerddorol niwroamrywiol arall, pan gymrodd nifer o aelodau Avanc y cyfle i fynd i chwarae cerddoriaeth gyda ‘Canfod y Gân’, grŵp i gerddorion gydag a heb anableddau dysgu a sefydlwyd gan Ganolfan Gerdd William Mathias mewn partneriaeth â thîm Anableddau Dysgu Gwynedd ac a ariennir trwy gronfa gerdd Ysbryd 2012. Dywedodd Einir Llwyd Roberts, cyfarwyddwr y ganolfan gerdd: “Fe wnaeth cyfranogwyr Canfod y Gân wir fwynhau ymweliad gan gerddorion Avanc i un o’u sesiynau dros yr haf. Roedd yn gyfle gwych i’r cerddorion ddysgu a rhannu gyda’i gilydd. Cyflwynwyd aelodau Canfod y Gân i alawon gwerin newydd gan Avanc, a chyflwynwyd Avanc i rai o ganeuon gwreiddiol Canfod y Gân. Roedd llond lle o fyrfyfyrio a gwefr greadigol go-iawn yn yr ystafell.”
Aelodau Avanc a Canfod y Gân yn ymuno â’i gilydd i gydweithio’n gerddorol yn ystod haf 2022
Roedd Elisa Morris yn un o gerddorion Avanc fu’n cymryd rhan yn y cydweithio, a bu’n myfyrio ar y rhinweddau sydd gan gerddoriaeth werin wrth feddwl am gefnogi cynhwysiant mewn creu cerddoriaeth: “Ym myd cerddoriaeth werin mae chwarae o’r glust a cheisio deall y gerddoriaeth mewn modd mwy agored a hygyrch yn golygu nad yw mor gaeth fel ffurf gelfyddydol, ac mae yna lawer iawn yn fwy o arbrofi ac addasu yn ôl galluoedd y sawl sy’n chwarae hefyd. Yn y gorffennol, fyddai cerddoriaeth ddim yn bodoli’n ysgrifenedig yn yr un ffordd; roedd creu cerddoriaeth yn beth mwy cymdeithasol o lawer, rhywbeth sy’n allweddol i’w drosglwyddo yn fy marn i, fel nad yw’n cael ei droi yn rhywbeth sydd ar gael i grŵp penodol o bobl yn unig.
“Gyda Canfod y Gân roeddech chi’n gallu gweld mor bwysig oedd hynny i’r cyfranogwyr oedd yn dod o bell ac agos, gan gynnwys pobl o ardaloedd gwledig. Yr elfen gymdeithasol oedd gryfaf gan eu bod yn nabod y bobl oedd yn creu cerddoriaeth gyda nhw’n dda, ac roedd hi’n hawdd dweud eu bod nhw’n cael cymaint o hwyl dim ond wrth ddod ynghyd a chwarae. Hyd yn oed i ni yn Avanc, mae pawb yn teimlo fod yr elfen gymdeithasol yn rhan mor bwysig o greu cerddoriaeth – a’r ymdeimlad o ymddiriedaeth fel grŵp hefyd.
“Fe’n gwnaeth ni hefyd yn fwy ymwybodol o’r angen i wneud mwy i sicrhau fod cerddoriaeth yn fwy hygyrch. Does ond angen edrych ar bwy sydd allan ar y llwyfannau – hyd yn oed o ran y rhaniad rhywedd, hil a nodweddion eraill – i wybod fod llawer iawn mwy sydd angen ei wneud i sicrhau fod creu cerddoriaeth, a’r ffordd y mae cynulleidfaoedd yn ei dderbyn, yn fwy hygyrch. Os mai cerddoriaeth y bobl yw cerddoriaeth werin, yna mae’n rhaid i hynny gynnwys pawb – rhaid i ni feddwl am bwy rydym ni am iddynt berchnogi’r gerddoriaeth hon a chael budd o’r llesiant, yr ymdeimlad o gysywllt â’n hanes, a’r elfennau hynny o greu cerddoriaeth sydd mor allweddol eu cymryd o’r gorffennol a’u rhoi i’r dyfodol.”
Bu Trac Cymru yn cefnogi pobl i ddarganfod cerddoriaeth werin Gymreig ers 21+1 o flynyddoedd, ac mae’n fwriad gennym arwain prosiectau cynhwysiant newydd mentrus i helpu gyda chynyddu amrywiaeth cyfranogwyr yn y sector gerddoriaeth yng Nghymru. Cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21. Gallwch hefyd ein helpu i ariannu ein gwaith trwy gyfrannu heddiw.