Un o nodau Trac Cymru yw sicrhau ymdeimlad mai ein traddodiadau gwerin yw calon gynnes bywyd cyfoes Cymru, gan wneud cyfraniad pwysig tuag at lesiant y genedl. Rydym am i’n cerddoriaeth draddodiadol chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i wella ansawdd eu bywyd a’u hiechyd.
Yn ddiweddar, bu cynnydd mewn tystiolaeth ymchwil cryf o’r effaith rymus y gall prosiectau celfyddydol gael ar iechyd a llesiant unigolion a chymunedau. Er enghraifft, bu mentrau cerdd yn hynod lwyddiannus wrth wella ansawdd bywyd pobl â dementia, a bu i Gonffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru adnewyddu eu partneriaeth ffurfiol ar ddiwedd 2020.
Mae Trac Cymru yn angerddol dros y cyfraniad unigryw y gall cerddoriaeth werin ei gynnig yn benodol o ran datblygiad personol a chymunedol. Fel rhan o adnewyddu ein rhaglen gyfranogi yn dilyn y pandemig coronafeirws, mae’r elusen bellach wrthi’n cynllunio cyfres o brosiectau o fewn cymunedau lleol sy’n ymateb i anghenion unigol.
Lansiwyd y cyntaf o’r prosiectau newydd hyn yn Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar, ble mae cerddorion gwerin ysbrydoledig yn gweithio gyda mamau ifanc sydd mewn perygl o ynysigrwydd cymdeithasol, gyda’r nod o gael effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd y cyfranogwyr, hybu eu hymdeimlad o gael eu cynnwys yn y diwylliant Cymreig ehangach a datblygu eu sgiliau creadigol. Noddir y prosiect gan Gronfa Gerdd Anthem, Tŷ Cerdd a Chronfa Rhwydwaith Cymdogaeth Rhondda Cynon Taf.
Mae llawer o famau ifanc yn profi anawsterau iechyd meddwl ac maent yn aml wedi’u hynysu rhag y cyfnewid rhwng cenedlaethau sydd mor fuddiol – y math o gyfnewid gwybodaeth a diwylliant sy’n gynhenid i gerddoriaeth draddodiadol. Nod Trac Cymru yw cefnogi’r bobl ifanc ddifreintiedig hyn i fynegi eu profiadau personol eu hunain trwy draddodiadau gwerinol megis adrodd straeon a dod ynghyd fel cymuned.
Arweinir y sesiynau gan Bethan Nia, telynores hynod brofiadol sydd hefyd yn angerddol dros lesiant, ac mae Trac Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r sefydliad egnïol ac ysbrydoledig, Mothers Matter, sydd wedi agor canolfan newydd yn Nhonypandy yn ddiweddar. Y cynorthwyydd ar gyfer y prosiect hwn yw Meg Cox, cerddor ifanc amryddawn ac aml-dalentog sydd wedi teithio trwy raglen ddatblygu Trac Cymru dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys bod yn aelod o Avanc, Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru.
Mae Meg yn helpu i gefnogi cyfranogwyr y prosiect, ac mae hi hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth iddi gofnodi tystiolaeth o’r buddion personol cadarnhaol y maent yn eu cael o gymryd rhan. “Mae cerddoriaeth yn rym pwerus iawn. Mae ganddo allu cynhenid i sbarduno’r cof a theimladau, ar y wyneb ac o dan wyneb ein dealltwriaeth o emosiwn. Am fod cerddoriaeth wedi’i wreiddio mor ddwfn yn ein bod, mae’n cynnig llu o fuddion i’n hiechyd corfforol a’n hiechyd meddwl”, meddai.
Yn ôl Meg, am fod cerddoriaeth werin yn cael ei ddiffinio’n llythrennol fel ‘cerddoriaeth y bobl’, mae ganddo’r grym i ymestyn ei fuddion ymhellach trwy gymdeithas: “Mae pobl wedi defnyddio cerddoriaeth fel ffordd o fynegi eu hunain erioed gan ein hatgoffa, trwy adrodd straeon, o’r hyn sy’n bwysig ac yn werthfawr mewn profiadau unigol a’r rhai a rannwn. Mae cerddoriaeth yn iaith fyd-eang ac yn ennyn teimladau cyffredin sy’n rhoi ein hymdeimlad o berthyn, o gynhwysiant a balchder yn ein byd wrth galon popeth.”
Oherwydd y coronafeirws, bu’n rhaid gohirio ein cynlluniau ar gyfer dathlu’r garreg filltir bwysig o gyrraedd pen-blwydd Trac Cymru yn 21 oed yn 2021, ond rydym wedi parhau gyda’n nod o gefnogi mwy nac erioed o bobl i ddatblygu eu cysylltiad arbennig eu hunain gyda cherddoriaeth anhygoel ein gwlad. Cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21. Gallwch hefyd ein helpu i ariannu ein gwaith trwy gyfrannu heddiw.