Un o nodau Trac Cymru yw sicrhau teimlad mai traddodiadau gwerin Cymru yw calon gynnes y genedl, gan chwarae rhan bwysig wrth gefnogi datblygiad cymdeithasol mewn cymunedau lleol. Rydym yn awyddus i ddangos sut y gall ymwneud â cherddoriaeth draddodiadol gael effaith gadarnhaol ar gynnydd personol unigolion.

Fel elusen, rydym yn angerddol dros ddangos a thystiolaethu’r grym cynhenid sydd gan gerddoriaeth draddodiadol wrth gefnogi cydlyniad cymdeithasol, yn enwedig wrth drosglwyddo gwybodaeth a diwylliant o genhedlaeth i genhedlaeth. Ein nod yw cynorthwyo mwy o bobl ifanc i greu cysylltiadau byw â’r dreftadaeth hon sy’n helpu i liniaru rhai o anfanteision eu hamgylchiadau unigol.

Mae toreth o dystiolaeth i gefnogi’r ddamcaniaeth fod cyfranogi yn y celfyddydau yn helpu i ddatblygu hyder a hunanwerth, gan gynnwys adroddiad gan y Grŵp Seneddol Amlbleidiol ar y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant yn 2017. Yn ogystal â hyn, mae llawer o astudiaethau cyhoeddedig diweddar wedi dangos fod pobl sy’n byw mewn ardaloedd incwm isel yn llai tebygol o lawer o fod â chyfleoedd i ymwneud â chreu cerddoriaeth.

Mewn prosiect blaenorol o’r enw Plant Penderyn, bu Trac Cymru yn cydweithio â gwasanaeth ieuenctid Merthyr Tudful er mwyn galluogi pobl ifanc rhwng 11 ac 17 oed o fewn tair o ganolfannau ieuenctid y fwrdeistref sirol i weithio gyda thîm o gerddorion traddodiadol ar gyfres o weithdai a digwyddiadau. Bu i’r bobl ifanc gael blas ar ystod o sgiliau cerddorol yn ogystal â sgiliau technegol a recordio sain. Wrth werthuso’r prosiect, cafwyd tystiolaeth rymus fod mwyafrif y rhai fu’n cymryd rhan wedi gweld cynnydd yn eu hyder yn gyffredinol, a’u bod yn teimlo ar ôl y prosiect eu bod wedi eu grymuso i roi cynnig ar weithgareddau eraill.

Dywedodd un o’r cyfranogwyr: “Tydw i erioed wedi gwneud dim byd cerddorol o’r blaen. Rydw i wedi dysgu i chwarae offerynnau newydd ac wedi dysgu am y broses recordio. Wnes i ddim cymryd rhan o’r blaen am na allwn i chwarae offeryn – mae hyn wedi gwella fy hyder.”

Gallwch wylio fideo am brosiect Plant Penderyn yma  👇

Oherwydd y coronafeirws, bu’n rhaid gohirio ein cynlluniau ar gyfer dathlu’r garreg filltir bwysig o gyrraedd pen-blwydd Trac Cymru yn 21 oed yn 2021, ond rydym wedi parhau gyda’n nod o gefnogi mwy nac erioed o bobl i ddatblygu eu cysylltiad arbennig eu hunain gyda cherddoriaeth anhygoel ein gwlad. Cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21. Gallwch hefyd ein helpu i ariannu ein gwaith trwy gyfrannu heddiw.

Skip to content