Tŷ Gwerin yw cartref y traddodiadau gwerin yn yr Iwrt ysblennydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda rhaglen llawn dop o berfformiadau, sesiynau, cyfweliadau a gweithgareddau i blant.
Creodd Trac Cymru y Ty Gwerin yn 2009, gan wahodd Cymdeithas Dawns Werin Cymru, Clera, a chymdeithasau celfyddydau traddodiadol eraill i ddod ynghyd mewn un babell fawr ar faes yr Eisteddfod i ddarparu man cyfarfod ar gyfer traddodiadau gwerin. Dros y pum mlynedd nesaf tyfodd wrth i ni ychwanegu perfformiadau, gweithdai a siop a oedd yn hyrwyddo artistiaid gwerin heb eu llofnodi gyda label, nes i drefnwyr yr Eisteddfod ymuno â ni i gartrefu ein gweithgareddau yn yr iwrt mwyaf yn Ewrop. Mae’r Tŷ Gwerin wedi dod yn un o’r mannau mwyaf poblogaidd ar faes yr Eisteddfod, lle gallwch archwilio perfformiadau gwerin traddodiadol ac arbrofol o gerddoriaeth, dawns, cân a stori.
Bydd y lluniau isod yn mynd â chi i orielau lluniau Tŷ Gwerin o 2019, 2018 a 2016
Rydym yn falch o fod yn gyfrifol am blannu rhan mor hanfodol o’r Maes heddiw gyda’n sefydliadau partner a oedd dros y blynyddoedd yn cynnwys Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, Making Music, y Gymdeithas Gerdd Dant a’r Ŵyl Gerdd Dant, yn ogystal â prif gymdeithasau gwerin Cymru.