Polisi Amgylcheddol
1. Cyflwyniad
1.1 Anogir holl staff Trac Cymru i ystyried materion amgylcheddol wrth fynd o gwmpas eu gwaith beunyddiol.
1.2 Mae gwaith Trac Cymru wedi’i rannu rhwng gwaith datblygu a leolir yn y swyddfa a gwaith datblygu a leolir yn y gymuned. ‘Rydym felly wedi dod i’r casgliad taw yr hyn sy’n amgylcheddol bwysig i ni yw’r egni ‘rydym yn ei ddefnyddio, a gofynion teithio a chludiant y mudiad.
2. Defnyddio ynni’n effeithlon
2.1 Er mwyn defnyddio ynni’n fwy effeithlon bydd ein holl staff yn cael eu hannog i feithrin ffyrdd o arbed ynni, megis diffodd goleuadau di-angen, a’r defnydd synhwyrol o wresogi ac awyru. Pan na fyddant yn cael eu defnyddio, bydd cyfrifiaduron a monitorau yn cael eu gosod yn y modd segur.
3. Deunyddiau
3.1 Mewn ymgais i arbed adnoddau naturiol, byddwn yn sicrhau bod staff Trac Cymru yn ymwybodol o’r angen i leihau ein defnydd o bapur ac yn cael eu hannog i ddefnyddio papur mewn ffordd gall, trwy er enghraifft, ddefyddio dwy ochr y papur pan yn agraffu neu’n llungopïo, ail-ddefnyddio papur sgrap a datblygu system di-bapur ar gyfer negeseuon a phost mewnol.
3.2 Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ail-gylchu cymaint â phosib o’n deunyddiau gwastraff. Mae papur naill yn cael ei ail-ddefnyddio neu ei ail-gylchu ac mae cetris peiriant argraffu yn cael eu storio ar gyfer eu casglu a’i hail-gylchu lle bo hynny’n bosibl. Mae gwastraff cyffredinol yn cael ei gasglu gan y Cyngor Sir lleol ac yn cael ei gludo i safle tirlenwi; byddwn yn cadw llygad ar ein gwastraff cyffredinol ac yn ceisio ei leihau.
4. Teithio
4.1 Bydd Trac Cymru yn annog ei holl staff i deithio mewn ffordd gyfrifol. Anogwn rhannu ceir ar bob cyfle posibl yn fewnol o fewn y mudiad ac yn allanol gyda’n partneriaid.
4.2 Bydd y mwyafrif o’n cyfarfodydd staff yn cael eu cynnal trwy gyfrwng VOIP (Protocol Llais dros y Rhyngrwyd) er mwyn lleihau’r defnydd o geir.
Adolygwyd a chytunwyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Trac Cymru ar 20 Medi 2022.