Leila Salisbury ar gasglwr caneuon gwerin cyntaf Cymru
I ni sy’n astudio, perfformio ac ymddiddori yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru nid hawdd fydd teithio i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg heb ystyried cyfraniad un gwr nodedig at y traddodiad hwnnw ddwy ganrif a mwy yn ôl. Y cymeriad lliwgar, eofn a chellweirus hwnnw oedd Iolo Morganwg. Cyfrifir Iolo heddiw fel casglwr alawon gwerin cyntaf Cymru. Ef oedd y cyntaf i fynd ati i gofnodi alawon gwerin ei gynefin a’u rhoi ar bapur, y cyntaf i greu cofnod o gyd-destun cymdeithasol yr alawon, a’r cyntaf hefyd i sylweddoli gwerth y traddodiad llafar, bregus hwnnw, a oedd ar y pryd yn bodoli ar dafod leferydd yn unig. Bu Iolo yn cofnodi alawon gwerin Bro Morgannwg rhwng 1795 a 1806.
Pan fyddwch yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol eleni, oedwch am ennyd i ddychmygu’r olygfa fyddai Iolo wedi’i weld dros ddwy ganrif yn ôl, ar drothwy’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y dyddiau hynny byddai llanciau ifanc yn aredig y tir drwy dywys yr ychen o dan yr iau, dan ganu tribannau wysg eu cefnau er mwyn cymell yr anifeiliaid yn eu blaenau. Roedd y triban yn fesur a apeliai’n fawr at drigolion Bro Morgannwg y cyfnod, ac yn arbennig efallai at gathreiwyr Morgannwg. Y ‘cathreiwr’ oedd y term a ddefnyddid yn siroedd y de ar gyfer y sawl a ganai i’r ychen, a’r enw cyfatebol yng ngogledd Cymru oedd ‘geilwad ychen’. Cofnododd Iolo amryw dribannau Morgannwg, gan gynnwys yr un canlynol:
Merch ifanc deg ei dwyfron,
Yw’r un a gâr fy nghalon,
Does bwyll na synnwyr yn fy mhen,
Ond sôn am Wen lliw’r hinon.
Ganed Iolo ym Mhennon, ym mhlwyf Llancarfan, ar 10 Mawrth 1747. Ym 1754 symudodd y teulu i Drefflemin, sef cartref Iolo a’i deulu hyd weddill ei oes, hyd nes 18 Rhagfyr, 1826. Hefyd, os digwIolo-Morgannwg-plaqueydd i chi deithio drwy’r Bontfaen fe welwch chi gofeb ar wal ar y brif stryd, gyferbyn â chloc y Neuadd, i ddynodi lleoliad siop lyfrau Iolo.
O’r 88 alaw werin a gofnododd Iolo, rhai gyda geiriau ac eraill heb, mae pedair alaw ar bymtheg yn gysylltiedig â dathliadau tymhorol (megis Calan Mai, y Nadolig a chanu gwasael), pymtheg ohonynt y gellir eu priodoli’n ganeuon serch (sy’n cyfeirio at draddodiad hynafol y canu llatai a’r canu mawl), deg ohonynt yn alawon galwedigaethol (er enghraifft caneuon gyrru’r ychen ac alawon godro), a’r gweddill yn alawon amrywiol sy’n cyfeirio at gymeriadau a sefyllfaoedd cyffredin bob dydd.
Fel y gwelwch o’r llun, ar droed fyddai Iolo yn crwydro’r fro, ei ‘boclyfr’ mewn un llaw a’i ffon yn y llall. Cofnododd Iolo amryw o’r alawon gwerin yn y llyfryn bychan hwn, sy’n dwyn y teitl swyddogol ‘Casgledydd Penn Ffordd’ (sydd bellach i’w weld yng nghasgliadau llawysgrifol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth). Mae’r casgliad hwn yn gyforiog o sylwadau a nodiadau eglurhaol yn llawysgrifen Iolo, yn ogystal â’r alawon eu hunain wrth gwrs, sy’n ffynhonnell werthfawr ar gyfer y darllenydd cyffredin sy’n awyddus i ddarganfod peth o’r dirgelwch a’r rhamant sy’n cwmpasu’r alawon.
Esgorodd gweledigaeth Iolo maes o law ar adfywiad yn hanes cerddoriaeth werin Cymru. Yn sgil ei esiampl ef, yn casglu a chofnodi agweddau ar ganu gwerin ei ddydd, daeth eraill, erbyn degawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, i sylweddoli gwerth a phwer dal gafael a chroniclo deunydd llafar. Yn wyneb newidiadau cymdeithasol, amaethyddol, diwydiannol a cherddorol mawr yr oes, yn ddi-os, byddai traddodiadau llafar, brodorol, wedi mynd ar ddifancoll. Mae ein diolch felly yn fawr i waith dyfal casglyddion a hynafiaethwyr y gorffennol.
Erbyn heddiw mae gennym ni yng Nghymru Amgueddfa Genedlaethol, Amgueddfa Werin Sain Ffagan (sydd nepell o faes yr Eisteddfod eleni) a Llyfrgell Genedlaethol i storio hen drysorau’r gorffennol, i gadw cofnod o’r hen arferion, yr hen lawysgrifau, a’r hen alawon. Fodd bynnag, breuddwyd yn unig oedd y sefydliadau hyn yn nyddiau Iolo. Roedd casglu a diogelu’r hanes, y caneuon, y cerddi ac yn y blaen, yn beth newydd sbon ar y pryd, a’r cyfrifoldeb yn gorffwys ar ysgwyddau unigolion yn amlach na pheidio. Roedd eu gwaith yn llafur cariad amhrisiadwy i genedlaethau’r dyfodol. Yn sicr, heb waith a dyfalbarhad pobl fel Iolo Morganwg fe fyddai ein treftadaeth a’n traddodiad cerddorol ni heddiw yn llawer tlotach.
gan Leila Salisbury
Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yng nghylchgrawn Ontrac pan ddaeth yr Eisteddfod i Fro Morgannwg yn 2012.
Isod: mae Stephen Rees yn canu un o ganeuon a gasglwyd gan Iolo; portread cyfoes; y plac yn y Bontfaen ar safle ei hen siop (Coffi Costa bellach); ac Iolo Morganwg anferth yn llywyddu gŵyl adrodd straeon ryngwladol Beyond the Border 2014 yng Nghastell Sain Dunwyd ym Mro Morgannwg.