Skip to main content

Prosiectau cymunedol – straeon llwyddiant ledled Cymru

Rydym yn gweithio gyda cherddorion, cantorion, dawnswyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, ni waeth beth fo’u hoedran, eu hiaith, eu gallu na’u cefndir. Os ydych â diddordeb yng nghelfyddydau gwerin a threftadaeth ddiwylliannol Cymru, bydd gennym rywbeth i’w rannu â chi.

Yma, gallwch ddod o hyd i ddolenni at rai enghreifftiau o’n gwaith dros y blynyddoedd:

PLANT PENDERYN, fideo am brosiect cymunedol peilot ym Merthyr Tudful

Fideo o’n prosiect cymunedol yn ymwneud â’r FARI LWYD

GWERIN GWALLGO, ein cwrs gwerin preswyl sy’n dod â cherddorion gwerin ifanc o bob cwr o Gymru ynghyd

TŶ GWERIN, cartref cerddoriaeth werin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

CLWB ALAWON LLANILLTUD FAWR, stori lwyddiant lleol, sydd â’i gwreiddiau mewn prosiect a gynhaliwyd ar lefel genedlaethol gan Trac Cymru

Yr ARBRAWF MAWR, ein penwythnos gwerin i bob oed, a gynhaliwyd yn llwyddiannus am ddeng mlynedd

Yr Arbrawf Mawr

Clwb Alawon Llanilltud Fawr

Ty Gwerin

Gwerin Gwallgo

Mari Lwyd – prosiect cymunedol

Plant Penderyn

Gweithio gyda chymunedau, gyda phobl ifanc, a gyda’r bobl sy’n gwneud i bethau ddigwydd
Cymuned

Mae gwaith rhyng-genedliadol Trac Cymru wedi cynnwys pobl o bob oedran sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth, canu a dawns traddodiadol, prosiectau megis:

Yr Arbrawf Mawr – ein penwythnos blaenllaw blynyddol i gantorion, dawnswyr a cherddorion
Tŷ Gwerin – erbyn hyn mae’n rhan annatod o’r Eisteddfod Genedlaethol
Cymorth ar gyfer sesiynau:
• tiwtoriaid ar gyfer clybiau alawon a sesiynau sefydlog fel Clwb Alawon Dolanog ym Mhowys, Sesiwn Fach Caerdydd yng Nghaerdydd a Chlwb Alawon Aberystwyth
• clybiau, sesiynau a gweithdai newydd ym Machynlleth, Sir Fôn, Ystradgynlais, Bro Morgannwg, Llanymddyfri, Betws (ger Pen-y-Bont ar Ogwr) ac Arberth yn Sir Benfro
• gweithdai clocsio yng Nghaernarfon, yr Wyddgrug a Sir Ddinbych
• gweithdai canu yn Llandeilo, Ystradgynlais a Chefn Cribwr, Pen-y-Bont ar Ogwr
Mari Lwyd –yr ‘opsiwn fegan’ am y traddodiad pen ceffyl hynafol
Diwrnodau Celfyddydau Gwerin – rydym wedi cynnal diwrnodau cyfan megis y diwrnod o ganu gwerin a Cherdd Dant yn Aberystwyth, y diwrnodau o ganeuon ac alawon yn Sir Benfro a diwrnod yn Abertawe i gyflwyno dawnsiau ac alawon Morys
Merthyr Tydfil – Gweithdai pibgyrn, a chefnogi Canolfan Soar gyda’i Ddiwrnod Werin o sesiynnau, cyngerddau a gweithdai
Repertoire lleol – mae peth o’n gwaith wedi ffocysu ar gysylltiadau lleol y caneuon a’r alawon fel, er enghraifft, gwaith Ifor Ceri ym Mhowys, caneuon Sir Benfro, Alawon Fy Ngwlad wedi’i leoli yng Nghaerphilly a Rhondda Cynon Taf, ac Alawon Llanrwst
Plygain – ail-sefydlu’r traddodiad canu eiconig Cymreig hwn
May Carols – dysgu’r caneuon a’r traddodiadau yn Aberystwyth a Chaerdydd
Coch Bach y Bala – ‘opera werin’ wreiddiol gan Sioned Webb wedi’i llwyfannu fel cynhyrchiad cymunedol yn Rhuthun

Pobl Ifanc

Y to ifanc yw dyfodol y celfyddydau gwerinac mae ein gwaith gyda phobl ifanc wedi bod yn brif ffocws dros y flynyddoedd diwethaf.

Gwerin Gwallgo – ysgol werin Cymru i bobl ifanc 11-18
Gwerin Iau – penwythnos werin i blant bach, 8-11
The Youth Folk Ensemble of Wales – cerddorion ifanc 18-25 sy’n perfformio dan yr enw llwyfan Avanc
Plant Penderyn – gweithio gyda bobl yn eu harddegau yn Merthyr Tydfil
Folkworks – naw gwerinwr ifanc o Gymru yn mynd â’u cerddoriaeth i Durham
Ethno – ysgol werin enwog Sweden yn croesawu talent ifanc o Gymru
Degogenod – ymunodd deg cerddor benywaidd ifanc o Gymru â chymheiriaid yn Sweden
Gweithio mewn ysgolion – gweithdai canu, cerddoriaeth a dawns yn Nhorfaen, Gwynedd, Cwmtawe, Caerdydd a Phowys; sesiynau ar y Fari Lwyd yng Nghaerfyrddin, a phrosiect am gynheiliaid traddodiad y sipsiwn yn Sir Benfro.
Jac y Do – CD i blant, gan blant

 

Traddiatoriaid

Rydym wedi cynnal sawl digwyddiad i bleidwyr achos gwerin a ‘gweithredwyr’ lleol – ein cyn-gyfarwyddydd, Siân Thomas, a fathodd y term ‘traddatoriaid’ ar eu cyfer

Ysgwyd ymaith y llwch – symposiwm rhyngwladol i drafod adennill cerddoriaeth o’r archifau
Fforwm y Traddatoriaid – diwrnodau o rhwydweithio ac hyfforddiant i glybiau gwerin a threfnyddion
Cyhoeddwyr Cerddoriaeth – symposiwm
Ymchwilio i ddefnydd crai – casgliadau o gerddoriaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Skip to content