Clwb Alawon Llanilltud Fawr

Sefydlwyd Clwb Alawon Llanilltud Fawr ym mis Ionawr 2012 gyda chefnogaeth Trac Cymru fel rhan o’r prosiect llawr gwlad tair blynedd ar gyfer Cymru gyfan, Tŷ a Gardd. Gan gydweithio â’r trefnwr lleol, Rob Bradshaw, bu i ni ariannu cyfres o weithdai ar alawon Cymreig gyda thiwtoriaid profiadol Meurig Williams, Guto Dafis a Delyth Jenkins. Bu’r rhain mor llwyddiannus nes i griw o’r unigolion a ddaeth ynghyd benderfynu parhau i gyfarfod. Ariannwyd rhagor o weithdai gan Clera, Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru, gan alluogi i’r aelodau drefnu Clwb Alawon, sydd wedi parhau ers hynny.

Mae’r Clwb yn cyfarfod yn rheolaidd, gyda chymysgedd o weithdai a sesiynau ymarfer. Mae tiwtor gwadd i bob gweithdy, a dysgir yr alawon o’r glust yn y lle cyntaf, er bod cerddoriaeth brint ar gael bob amser. Mae’r sesiynau ymarfer yn gyfle i ymarfer, ac yn amrywio o awr neu ddwy i ddiwrnod cyfan o gerddoriaeth.

Sylfaenydd y Clwb, Rob Bradshaw, sy’n parhau â’r hanes. “Rhywbryd o gwmpas 2015, fe sylweddolom ni ein bod ni wedi casglu tomennydd o ddarnau papur gyda’r alawon yr oeddem ni wedi eu dysgu yn barod arnyn nhw, a dyma benderfynu dod â nhw ynghyd ar fformat hwylusach. Wrth lwc, daeth Cymunedau Gwledig Creadigol i’r adwy, gan gytuno i ariannu’r gwaith o greu tri llyfr 50 tudalen. Erbyn hyn, mae chwech o’r rhain wedi eu creu, gyda’r seithfed bron yn barod, ac mae digon o ddeunydd i ddechrau meddwl am yr wythfed! Un o’n nodau, wrth gwrs, oedd perfformio ein halawon Cymreig mewn sesiwn yn y dafarn leol.
Bu’r Old Swan yn Llanilltud Fawr yn hynod o gefnogol, ac rydym ni wedi perfformio yno’n rheolaidd mewn sesiynau sydd bellach yn fisol – hyd fis Mawrth 2020, wrth gwrs. Yn addas iawn, roedd Guto Dafis wedi dysgu’r alaw ‘Tôn Alarch’ i ni!”

Saif pentref Llanilltud Fawr ar arfordir Bro Morgannwg. Roedd Cymunedau Gwledig Creadigol yn awyddus i hyrwyddo chwarae cerddoriaeth a gasglwyd ac oedd yn gysylltiedig â Sir Forgannwg, yn arbennig alawon Iolo Morgannwg, ond hefyd gwaith gan Maria Jane Williams a Llewelyn Alaw. Arweiniodd hyn at greu perfformiad o ganeuon a cherddoriaeth leol mewn cydweithrediad â Guto Dafis.

Dechreuodd y Clwb Alawon ehangu y tu hwnt i ddysgu a chwarae alawon yn unig. Dyma Rob yn cydio yn y stori unwaith eto: “Fe gawsom ni noson hyfryd o straeon a chwedlau o Forgannwg gan Guto Dafis. Cafwyd sgwrs a pherfformiad difyr iawn ar gerddoriaeth Gernywaidd gan Mike O’Connor, a ddilynwyd wedyn gan noson o straeon o Gernyw. Bu i un o drigolion lleol Llanfaes, Jeff Robinson, roi sgwrs ragorol un prynhawn ar Siantis Môr y Barri a gasglwyd oddeutu’r flwyddyn 1930 gan James Madison Carpenter cyn iddo ddychwelyd i America, casgliad y bu ond y dim iddo fynd ar goll. Roedd tad-cu Jeff yn un o’r llongwyr yn y Barri a rannodd nifer o’r caneuon. Buom allan am y dydd drên Calon Cymru, gan chwarae cerddoriaeth yr holl ffordd i Landeilo ac yn ôl. Roedd yr acwsteg yn y lloches aros yng ngorsaf Llandeilo yn rhagorol! Rydym wedi ymuno â Chlwb Alawon Tywi dan ofal Helen Adam ar sawl achlysur, i berfformio yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, ac yn lansiad prosiect Helen, Tunelines, yn Oriel Tŷ Cornel, Rhydaman. Rydym hefyd wedi dod ynghyd yn rheolaidd tuag adeg y Nadolig, ac yn ddiweddar, fe chwaraeon ni’r gerddoriaeth Nadoligaidd a gasglwyd gan Angharad Jones.
Mae Ficer Eglwys Illtud Sant yn Llanilltud wedi bod yn awyddus iawn i sefydlu’r eglwys fel lleoliad cerddorol, ac roedd yn frwd iawn ei gefnogaeth wrth i ni drefnu dau gyngerdd cyhoeddus. Fe gawsom ni weithdy arbennig yn ystod y dydd gyda Delyth ac Angharad Jenkins, ac yna cyngerdd trawiadol gyda’r nos yr Eglwys Orllewinol hardd. Y flwyddyn olynol, cawsom weithdy hanner diwrnod gyda Guto Dafis, cyn mwynhau cyngerdd gwych arall yng nghwmni Guto a Danny KilBride.”

Ar hyn o bryd, mae gan y Clwb Alawon rhyw ugain o aelodau, gyda nifer ohonynt yn teithio cryn bellter i gymryd rhan. “Mae gennym ni berthynas agos â Helen Adam o Glwb Alawon Tywi, ac mae nifer o’n haelodau yn cymryd rhan mewn Clybiau Alawon eraill hefyd, gan gynnwys clybiau Llantrisant a Black Hill,” medd Rob. “Rydym hefyd wedi mwynhau’r sesiynau Clera dan drefniant Meurig Williams yn Nhŷ Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Amgueddfa Sain Ffagan.

Mae wedi bod yn daith ryfeddol! Mae ein diolch yn fawr i bawb sydd wedi ein helpu a’n hannog i fwynhau chwarae ein cerddoriaeth genedlaethol Gymreig. Efallai mai dyma ein 24 mesur! Angharad Jenkins, Bruce Knapp, Ceri Rhys Matthews, Danny KilBride, Dave Parsons, Delyth Jenkins, Gareth Westacott, Geraint Roberts, Guto Dafis, Helen Adam, Helina Rees, Jeff Robinson, Kate Strudwick, Meurig Williams, Mike Lease, Mike O’Connor, Paul Hutchinson, Richard Jones, Robert Evans, Siân Phillips, Stacey Blythe, Stephen Rees, Steve Jeans, Sue Banks, a llawer iawn mwy, heb os!

Mae’n destun llawenydd mawr i Trac Cymru fod derwen gref wedi gwreiddio o’r fesen a blannwyd yn 2012, diolch i gefnogwyr lleol ymroddedig.