📢 Diweddariad Pwysig: Cyhoeddiad Cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Annwyl cymuned Trac Cymru,
Gobeithio bod y neges hon yn dod i chi i gyd mewn ysbryd da. Heddiw, cawsom newyddion gan Gyngor Celfyddydau Cymru ynglŷn â’n cais am gyllid, a hoffem ei rannu gyda chi.
Yn anffodus, mae’n ddrwg gennym gyhoeddi na fydd Trac Cymru bellach yn un o’r sefydliadau sy’n cael ei ariannu’n flynyddol gan CCC o 2024 ymlaen yn dilyn eu Hadolygiad Buddsoddi. Rydym yn siomedig iawn i beidio â chael ein cynnwys ac yng ngoleuni’r penderfyniad hwn, byddwn yn cymryd amser i fyfyrio ar waith y cwmni a’n camau nesaf yn y dyfodol.
Hoffem estyn ein llongyfarchiadau o’r galon i’r holl brosiectau a sefydliadau anhygoel a dderbyniodd arian. Mae eich ymrwymiad i’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru yn ysbrydoledig, ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd eich ymdrechion yn ei chael ar ein cymunedau creadigol. I’r sefydliadau eraill nad oedd yn llwyddiannus, rydym yn anfon ton enfawr o gefnogaeth ac mae ein calonnau yn mynd allan atoch chi.
Mae ein hymrwymiad i hyrwyddo a gwarchod traddodiadau gwerin Cymru yn parhau i fod yn ddiysgog. Ni fydd y newyddion hyn yn ein rhwystro rhag ein cenhadaeth i roi celfyddydau traddodiadol Cymru wrth galon bywyd cyfoes Cymru, ac i sicrhau diwylliant llewyrchus o fewn Cymru gyda’i gwreiddiau yn y traddodiad gwerin. Byddwn yn parhau i ddathlu a meithrin tapestri cyfoethog treftadaeth Cymru trwy gerddoriaeth draddodiadol, dawns ac adrodd straeon.
Rydyn ni yma i wrando, dysgu a chydweithio. Os hoffech archwilio ffyrdd o weithio gyda’n gilydd neu os oes gennych awgrymiadau ar sut y gallwn barhau i wasanaethu ein cymuned yn well, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni. Mae eich syniadau a’ch cefnogaeth yn amhrisiadwy.
Nid dyma ddiwedd ein taith. Mae Trac Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu a dod o hyd i ffyrdd arloesol o hyrwyddo traddodiadau diwylliannol bywiog Cymru.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus.
Dymuniadau cynnes,
Trac Cymru.