Caneuon Gwerin o Gymru –

casgliad gan Arfon Gwilym

Adeiladwch eich repertoire o ganeuon gwerin traddodiadol o Gymru gydag Arfon Gwilym, un o hoelion wyth ein traddodiad. Mae Arfon, gyda chymorth trac, wedi creu’r casgliad hwn ar gyfer cantorion er mwyn gwneud y caneuon traddodiadol hyn yn hygyrch ar eu ffurf buraf, sef llais digyfeiliant.

Fel mae Arfon yn dweud:

“Ni ellir pwysleisio digon mai ar lafar yn bennaf y cafodd caneuon gwerin eu trosglwyddo ar hyd y canrifoedd, ac mai o’r glust y dylid eu dysgu bob amser os oes modd. Caneuon ydyn nhw, bron i gyd, a glywais i yn cael eu canu cyn i mi erioed eu gweld ar bapur. Dyna pam fod rhywun, yn ddiarwybod bron, yn efelychu dull o ganu nad oes modd ei gyfleu ar bapur. Dyna pam hefyd, wrth weld cân wedi ei rhoi lawr mewn hen nodiant neu sol-ffa, mai fy ngreddf yw ystyried hynny fel canllaw yn unig yn hytrach na rhywbeth manwl gywir wedi ei osod mewn concrid.

Rwy’n ymwybodol iawn, hefyd, fod yna garfan o bobl sy’n ymddiddori mewn caneuon gwerin Cymraeg sy’n awyddus i wybod mwy, o ran eu cefndir a sut i ynganu’r geiriau. Gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn gymorth i godi cwr y llen.”

Darlunir y caneuon gyda ffotograffau gan John Pocklington, a gymerir yn arbennig ar gyfer y brosiect hon.

Cewch glywed mwy o ganeuon gan Arfon ar ein dudalen Soundcloud, yma