Skip to main content

Trad Music ENG.png

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi comisiynu Adolygiad o’r sector Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru. Mae ansawdd ein hartistiaid yn eithriadol o gryf ac mae cerddoriaeth draddodiadol wedi’i gwreiddio mewn cymunedau ledled Cymru, gyda chysylltiad dwfn â iaith, diwylliant a’r wlad. Yn gynyddol mae ein cerddoriaeth a’n hartistiaid traddodiadol yn denu sylw rhyngwladol, ac mae ymgysylltu â cherddoriaeth yn helpu i gefnogi lles a datblygiad cymunedol. Mae’r adolygiad hwn yn rhoi cyfle amserol i edrych ar y ffordd orau i CCC gefnogi’r sector a sut y gall y sefydliadau sy’n weithredol yn y sector – ar draws pob lefel – weithio’n fwy cydlynol ar ran ein cerddorion, win cymunedau a’n cynulleidfaoedd.

Mae ein cenedl ni’n genedl o gyfoeth ac amrywiaeth ddiwylliannol gynyddol, ac felly, ochr yn ochr â cherddoriaeth draddodiadol Cymru, bydd yr adolygiad hwn yn mynd ati’n frwd i groesawu ehangder cerddoriaeth draddodiadol YNG Nghymru, felly rydym yn dymuno annog ymarferwyr, athrawon a hwyluswyr o bob rhan o’n cymunedau amrywiol i gynnig eu syniadau a siarad â ni am eu hanghenion penodol. Yn yr un modd, rydym yn deall yn iawn bod yr hen ac ifanc yn rhan o’r sector hwn p’un a ydynt yn mwynhau gwrando ar nosweithiau gwerin lleol neu berfformio ynddynt, yn dysgu offeryn, yn gerddorion medrus sy’n awyddus i adeiladu gyrfa mewn cerddoriaeth werin, neu, yn wir, yn gerddorion proffesiynol ag awydd adeiladu cysylltiadau rhyngwladol a theithio. Ac mae hwyluswyr pob un o’r cyfnodau hyn o gyswllt: lleoliadau, hyrwyddwyr, athrawon, gwyliau, llyfrgelloedd cerddoriaeth, cerddoriaeth draddodiadol a sefydliadau diwylliannol yn rhan bwysig o’r ecosystem hefyd. Rydym eisiau clywed gennych i gyd, a thros y misoedd nesaf byddwn yn estyn gwahoddiad i chi roi eich barn mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys arolwg ar-lein a chyfres o gyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru a rhai sesiynau ar-lein hefyd.

 

Mae Angharad Wynne wedi’i phenodi’n Gomisiynydd ar gyfer yr adolygiad ac mae Tŷ Cerdd wedi cael y dasg o reoli’r broses. Mae gan y tîm hwn hanes rhagorol o weithio’n ymgynghorol ar draws sectorau cerddoriaeth Cymru.  Antwn Owen-Hicks, sydd â chyfoeth o brofiad personol a phroffesiynol o fewn y sector, fydd y rheolwr prosiect arweiniol ar ran Tŷ Cerdd. Bydd tîm Trac Cymru hefyd yn cynnig eu harbenigedd, profiad a rhwydweithiau. Gyda’n gilydd, edrychwn ymlaen at weithio gyda chi ac eraill ar draws y sector i gyflwyno proses drylwyr a chydweithredol a fydd yn caniatáu ichi gynnig eich barn a rhannu pryderon a syniadau ar gyfer dyfodol y sector pwysig hwn.

 

Ar ôl cwblhau’r broses ymgynghori, byddwn yn cyfuno’r canfyddiadau ac ymchwil desg sy’n archwilio strwythurau a strategaethau llwyddiannus a ddefnyddir gan wledydd eraill i gefnogi eu sectorau cerddoriaeth draddodiadol. Bydd hyn wedyn yn arwain at adroddiad o ganfyddiadau a chyfres o argymhellion ymarferol a fydd yn cael eu cyflwyno i Gyngor CCC yn gynnar yn 2025.

 

Byddem yn ddiolchgar iawn am eich amser a’ch ymgysylltiad â’r broses hon fel y gallwn gydweithio i wneud y gorau o’r cyfle hwn i ailystyried ac adolygu’r ffordd orau o gefnogi sector cerddoriaeth draddodiadol Cymru i ffynnu.

Os hoffech gynnig eich barn a’ch syniadau ynglŷn a’r  sector cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru, llenwch y ffurflen isod a cewch eich ychwanegu at ein cronfa ddata ar gyfer cyfathrebu.

Rhai nodiadau ychwanegol a chefndir a allai fod o ddiddordeb i chi:

▶ Rhagor o wybodaeth am yr adolygiad

▶ Manylion yr Adolygiad Buddsoddi (Mae’r ymyriadau strategol arfaethedig i’w gweld ar dudalen 46.)

Ymholiadau

Ebostiwch ymholiadau@tycerdd.org gyda’ch chwestiynau.

ACW_logo_black-portrait.png
Skip to content