400 mlynedd o’r lawysgrif Robert ap Huw

Robert ap Huw: cerddoriaeth deuaidd unigryw

Fu 2013 yn nodi 400 mlynedd wedi i Robert ap Huw, a gafodd ei eni yn Mhenymynydd, Ynys Môn, gopio ei lawysgrif gerdd dant (y corff cynharaf yn Ewrop o gerddoriaeth yn arbennig i’r delyn) sy’n cynnwys oriau o gerddoriaeth. Dyma’r unig ffynhonnell ar gyfer cerdd dant barddol, y bernir bod rhannau ohoni’n dyddio i’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ysgrifennir y gerddoriaeth mewn tabl-nodiant unigryw i’r delyn a mae’n annhebyg i’r gerddoriaeth werin neu glasurol a genir yng Ngymru heddiw. Mae’n gofyn i’r telynor ddefnyddio ewinedd hir ac i dynnu a distewi’r tannau yn ôl system gaeth. Nid yr un a ddefnyddir heddiw yw’r iaith harmonig, ond system ddeuaidd sy’n cyferbynnu dwy set o nodau.

Robert ap Huw binary notation

 

 

 

Mae ‘barddol’ yn perthyn i feirdd, telynorion, crythorion a chantorion arbennig – datgeiniaid – yng Ngymru’r canol-oesoedd. Fe’u trefnwyd mewn urddau i greu, i ddysgu ar gof, ac i berfformio cerdd dafod a cherdd dant er mwyn anfarwoli’u noddwyr mewn sefyllfa ddefodol, a pharhasant ar waith yng Nghymru hyd ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Yng Ngymru’r canol oesoedd hwyr dim ond y delyn a’r crwth a ystyriwyd fel offerynnau barddol. Y mae tebygrwydd cymdeithasol, damcaniaethol, a thecnegol rhwng proffesiynau barddol Cymru, Iwerddon a’r Alban.

Dysgodd “gwyr wrth gerdd” stoc anferth trwy’r glust. Y mae’n debyg mai sylweddoliad Wiliam Penllyn, yn gynharach yn yr unfed ganrif ar bymtheg, bod yr oes farddol yn dod i ben, a’i ysgogodd i ddyfeisio tabl-nodiant ac i gofnodi cerdd dant am y tro cyntaf. Ei lawysgrif goll ef a fu’r ffynhonnell debygol am Robert ap Huw.

Wrth i Robert ap Huw gwblhau ei hyfforddiant ni roddwyd gwerth ar gerdd dant bellach. Gweithiodd yn ei broffesiwn am ychydig yng ngogledd Cymru ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, cyn mynd i afael y gyfraith a chael ei garcharu, dianc o’r carchar, diflannu, ac wedyn ail-ymddangos yn llys Siams y Cyntaf.

Cafodd Robert ei hyfforddi i ganu’r delyn wrachiod, y delyn a oedd yn cael ei chanu dros Ewrop i gyd, ac eithrio’r Iwerddon. Darnau pren wedi’u gosod i’r delyn ar bob twll tant yw gwrachiod, sy’n dal y tant clymedig wrth fol y delyn. Yn fwy pwysig, fe’u gosodir ar ongl er mwyn cyffwrdd â phob tant yn ysgafn wrth iddo ddirgrynu gyda’r bwriad i greu swn grwnan cryf sy’n hanfodol wahanol i’r tonau pur a werthfawrogir heddiw. Nid rhywbeth amrwd oedd hyn. Creuodd weuad harmonig eithriadol o soniarus. Yn hwyr yn yr ail ganrif ar bymtheg adnabyddiwyd y delyn wrachiod yn Lloegr fel “the Welch harp”, a chafodd ei ganu yng Nghymru hyd at 1815. Y mae pob techneg a ddangosir yn llawysgrif Robert ap Huw yn dwyn tonau gwahanol o’r delyn.

9999
‘Ceimion wrachiod cymmwys / Yn siarad pob teimlad dwys.’
(O gywydd gofyn telyn gan Huw Machno c. 1560 – 1637)

Nid dim ond diddanwch oedd y gerddoriaeth hon (er y gallai swyno). Ei hamcan, yn ogystal â chanu clod, oedd i roi anfarwoldeb i’r rhai a dalodd amdani. Yr oedd perfformiadau barddol yn rhan o ddefodau cymdeithasol y bywyd Cymreig yn y canol oesoedd hwyr. Yr oedd perfformiad cerdd moliant newydd, yn ogystal â cherddi’n cofnodi hynafiaid y noddwr, yn arddangos ei gyfoeth a’i chwaeth dda, a chadarnhau ei linach a statws gerbron ei well, ei gymheiriaid, a’r rhai is nag ef. ‘Roedd cyfoeswyr pwerus Saesnig yn comisiynu lluniau, palasau, cerddoriaeth eglwysig a chapeli er mwyn sicrhau eu hanfarwoldeb.

Yn ystod y deg mlynedd ar hugain diweddaraf gwelwyd datblygiad mawr i adfywio cerddoriaeth ganol-oesol a hwyrach Iwerddon, Yr Alban a Chymru, trwy gyfrwng dulliau hyddysg yn hanes h.y. chwilio am ffynonnellau hynaf cerddoriaeth wedi’u nodiannu a theori, yn defnyddio copiau gofalus o offerynau cyfoes a’r technegau canu a chyweirio a benodir mewn dogfennau hanesyddol. Y mae ailgyfuno cerdd dafod a cherdd dant yn gofyn am gydweithio gydag ysgolheigion llên y canol oesoedd. Byddai’r datblygiadau hyn yn amhosibl heb lafur gwneuthurwyr offerynau ymroddedig.

Ni ellir chwarae cerdd dant farddol wrth ddefnyddio technegau offerynol modern wedi’u haddasu. Mae rhaid i delynor neu ffidlwr ddysgu canu’r delyn wrachiod neu’r crwth o’r dechrau, trwy ymwrthod â thechnegau a byd sain canu gwerin Cymreig neu gerddoriaeth glasurol fodern.

Efallai bydd traddodiadau byw o fannau eraill yn fwy addysgiadol na thraddodiadau gwerin Cymreig e.e. canu epig Bosnia, traddodiadau canmol gorllewin a dwyrain Affrica (gyda chyffelybiaethau trawiadol i gerdd dant ganoloesol Cymru) a pherfformio epig Asia.

I ddathlu’r bedaircanmlwyddiant yma creodd ddeuawd llais a chrwth Bragod sioe newydd “Adar”. Cyngerdd yw hwn o gerddi gan Dafydd ap Gwilym ac “Ymddiddan Arthur a’r Eryr”, deialog comig moesol, i gyd wedi’u gosod i gerddoriaeth o lawysgrif Robert ap Huw. Am fwy o wybodaeth ar hwn neu ar Robert ap Huw a’i gerddoriaeth, gweler www.bragod.com neu bragod.wordpress.com

Erthygl gan Robert Evans a Mary-Anne Roberts