Cefnogwch ni

Mae Trac Cymru yn elusen cofrestredig, rhif 1085422

 

Cyfrannu at ddyfodol ein treftadaeth

Mae’r celfyddydau traddodiadol Cymru yn un o gonglfeini hunaniaeth ein gwlad. Mae ein cerddoriaeth, ein caneuon, ein cerdd dant, dawns a chwedleua yn cynrychioli ac yn mynegi ein hanes, ein ieithoedd, ein diwylliant a’n ffordd o fyw nodweddiadol.

Gallwch helpu ein helusen i warchod a datblygu’r dreftadaeth werthfawr hon.

Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn barhau i ymgysylltu â miloedd o bobl bob blwyddyn mewn gweithdai, cyrsiau preswyl a pherfformiadau cyhoeddus. Mae ein tîm bychan ond ymroddgar yn cefnogi cannoedd o gerddorion, cantorion, dawnswyr, gwyliau a threfnwyr gwerin trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor iddynt hwy yn ogystal â’r cyhoedd. Rydym yn annog y genhedlaeth nesaf o gerddorion a dawnswyr, yn darparu cyfleoedd Datblygu Artist i berfformwyr proffesiynol, ac yn hyrwyddo cerddoriaeth o Gymru mewn digwyddiadau rhyngwladol. Dyma rai o’r ffyrdd y gallwch fod yn rhan o hyn.

Bydd unrhyw gyfraniad a wnewch, boed fawr neu fach, yn chwarae rhan allweddol wrth roi cymorth i gerddoriaeth, caneuon, dawns a chwedlau Cymru ffynnu. Os ydych yn drethdalwr yn y DU, bydd ychwanegu Rhodd Cymorth at eich cyfraniad yn rhoi mwy fyth o werth i ni.

'));

Dod yn un o Gyfeillion Trac Cymru

Byddai cyfraniad rheolaidd i gefnogi ein gwaith yn ein cynorthwyo i gyflawni ein gweledigaeth o ddiogelu ffyniant cerddoriaeth, dawns, caneuon a chwedlau gwerin Cymru i genedlaethau’r dyfodol. Mae rhoddion rheolaidd yn ein helpu i gynllunio ein gwaith a sicrhau fod ein treftadaeth ddiwylliannol yn derbyn cefnogaeth dda.

Byddai cyfraniad rheolaidd o £10 y mis yn fuddsoddiad gwerth chweil yn nyfodol y celfyddydau gwerin traddodiadol yng Nghymru. Fel elusen gofrestredig, bydd ychwanegu Rhodd Cymorth at eich cyfraniadau rheolaidd yn rhoi mwy fyth o werth tuag at y gwaith a wneir gennym.

Er mwyn dod yn Gyfaill, yr oll sydd angen i chi yw cliciwch ar y ddolen Donate uwchlaw, a dewis i gyfrannu’n rheolaidd.

Noddi person ifanc

Nod Trac Cymru yw sicrhau bod dysgu am a bod yn rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol mor hygyrch â phosib. Mae ein holl gyrsiau preswyl yn cynnig llefydd trwy fwrsariaeth ar gyfer rhai sydd mewn cyni ariannol; gyda’ch cymorth, fe allem wneud mwy na hynny.

Gallech noddi lle trwy fwrsariaeth yn eich enw eich hun, er cof am anwylyn, neu yn ddienw. Byddech yn helpu plentyn neu berson ifanc o deulu llai ffodus i ddatblygu yn greadigol ac yn gymdeithasol.

Cysylltwch â ni trwy e-bostio trac@trac-cymru.org am fanylion ynglŷn â gweithgareddau cyfredol allai gael budd o’ch cymorth.

Nawdd gan Fusnesau

Gallai cefnogi gweithgareddau Trac Cymru gynnig buddion i’r ddwy ochr. Ystyriwch

  • Gwobrau Gwerin Cymru: deg gwobr i gydnabod rhagoriaeth a gyflwynir bob yn eilflwydd, gan ddarlledu ar y radio a chyda sylw helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Ensemble Gwerin Cenedlaethol Cymru: pymtheg o’n talentau ifanc disgleiriaf yn perfformio ar lwyfannau gwyliau dan yr enw llwyfan Avanc
  • Rhwydweithio rhyngwladol â phartneriaid ledled Ewrop, Gogledd America ac Awstralasia trwy’r European Folk Network, WOMEX, Folk Alliance a mwy
  • Gwerin Gwallgo a Gwerin Iau, cyrsiau preswyl i gerddorion, cantorion a dawnswyr o oed ysgol – gallech noddi’r digwyddiad cyfan neu leoedd unigol, e.e. lle i blentyn o’r ardal y mae eich busnes wedi ei leoli ynddi

Cysylltwch â ni trwy e-bostio trac@trac-cymru i drafod sut y gallem gydweithio.

Mae Trac Cymru yn elusen gofrestredig ac yn aelod o Celfyddydau a Busnes Cymru.

Gadael Etifeddiaeth

Trwy adael rhodd i Trac Cymru yn eich Ewyllys, byddwch yn parhau i wneud gwahaniaeth yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae’n bosib y byddwch yn dymuno cefnogi celfyddyd benodol – cerddoriaeth, dawns, canu, cerdd dant, chwedleua – neu weithgareddau i ystod oedran, ardal ddaearyddol neu grŵp difreintiedig penodol, er enghraifft.

Ar y llaw arall, mae’n bosib y byddwch yn dymuno cefnogi gwaith cyffredinol ein helusen ar ran pobl a diwylliant Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddogfen PDF isod, y gallwch ei lawrlwytho. I drafod opsiynau, neu os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Trac Cymru ar 01446 748556 neu e-bostio trac@trac-cymru.org

Gadael Etifeddiaeth (PDF i’w lawrlwytho)

Diolch i’n Cyllidwyr

Ni allem wneud y gwaith a wnawn heb gefnogaeth gan lawer o ffynonellau. Hoffem ddweud diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru ac i Lywodraeth Cymru, sy’n gefnogwyr mawr. Rydym hefyd yn diolchi’r cyllidwyr eraill – sefydliadau, Ymddiriedolaethau, Sefydliadau a rhoddwyr unigol – sy’n helpu’r elusen i gyrraedd pobl, i newid bywydau, i feithrin rhagoriaeth ac i ddatblygu treftadaeth fyw Cymru.