Skip to main content

Ers blynyddoedd bellach mae Gwerin Gwallgo, ysgol gerdd Trac Cymru i gerddorion ifanc yn eu harddegau, wedi hybu datblygiad personol cannoedd o bobl ifanc trwy gynnig gofod addysgol a chymdeithasol cyffrous i ddarganfod eu diwylliant a’u creadigrwydd gyda’i gilydd.

Mae’r cyrsiau preswyl hyn wedi chwarae rôl hanfodol trwy wella hyder pobl ifanc, yn ogystal â chaniatáu gofod ac amser gwerthfawr i wneud ffrindiau newydd a sefydlu rhwydweithiau o gyfoedion o bob cwr o Gymru sy’n rhannu’r un diddordebau. Dywedodd un rhiant brwd wrthym mai “dyma’r un lle ble mae hi’n teimlo ei bod hi wir yn perthyn … mewn ffordd sy’n ei chyffroi a’i hysbrydoli”.

Mae Gwerin Gwallgo yn meithrin cysylltiad dwfn rhwng pobl ifanc a diwylliant a threftadaeth eu cenedl, a hynny mewn amgylchfyd ysbrydoledig sy’n llawn o gerddoriaeth, canu a dawnsio traddodiadol, a than arweiniad rhai o diwtoriaid mwyaf disglair y sin werin yng Nghymru. Mae cymdeithasu â cherddorion a dawnswyr ifanc eraill, dysgu technegau newydd, gwella hyder, ac archwilio hunanfynegiant oll yn rhan o’r manteision arbennig sydd i’w cael o fynychu’r cyrsiau hyn.

Gallwch wylio ein fideo hyrwyddo o’r cwrs Gwerin Gwallgo 2020 yma 👇

Skip to content