Gall traddodiadau gwerin aros yn fyw gyda balchder os oes toeon newydd o gerddorion sy’n parhau i roi eu stamp bywiog a chyffrous eu hunain ar eu celfyddyd, gan ddenu cynulleidfaoedd brwdfrydig o’r newydd. Ers 2017, mae Trac Cymru wedi buddsoddi adnoddau sylweddol yn natblygiad Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru, sydd ar hyn o bryd yn derbyn clod sylweddol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol dan yr enw Avanc.
Rhan bwysig o strategaeth yr elusen i gynnal sector cerddoriaeth draddodiadol y genedl fu darparu cefnogaeth alwedigaethol drylwyr i rai o’n pobl ifanc mwyaf talentog, gan eu cynorthwyo i gyrraedd rhagoriaeth artistig ar lefel uchel o ran eu sgiliau perfformio, ochr yn ochr â rhannu gwybodaeth ymarferol anhepgor o ran gofynion gyrfaoedd proffesiynol.
Bellach mae Avanc, sy’n cynnwys 11 o gerddorion ifanc brwdfrydig o bob cwr o Gymru, wedi dod yn adnabyddus am eu sioeau llwyfan pwerus a’u recordiadau cyffrous sy’n rhoi llwyfan i sain ensemble cyfoes bywiog gyda ffidlau, telynau, gitâr, chwibanoglau, pibau ac offerynnau taro, yn ogystal â chanu a chlocsio. Yn dilyn gweithgarwch arloesol ar-lein dan gyfyngiadau’r pandemig, bu aelodau’r band yn teithio’n eang yn 2022, gan ddod yn ffefrynnau mewn nifer o wyliau ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys perfformiadau arbennig yn ddiweddar yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Celtic Connections yn yr Alban, a’r Ŵyl Ryng-Geltaidd yn Ffrainc.
Gwrandewch ar sengl ddiweddaraf Avanc yma👇
Cafodd Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru ei beilotio’n wreiddiol gan Trac Cymru yn 2017, a derbyniodd gefnogaeth ariannol yn y dyddiau cynnar gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Bu’r perfformwyr yn mireinio eu sgiliau dan gyfarwyddyd artistig Patrick Rimes, gyda chefnogaeth ychwanegol gan y tiwtoriaid, Sam Humphreys a Gwen Màiri. Dyma rai o ffigyrau amlycaf cenhedlaeth iau o gerddorion gwerin Cymreig sefydledig sydd bellach yn gweithio’n frwd i drosglwyddo’u gwybodaeth eu hunain.
Fel y gwelwch yn y fideo isod fe wnaethom ddal i fyny gyda rhai o aelodau Avanc yn ddiweddar, i sôn am eu profiadau o fod yn rhan o’r Ensemble 👇
Wrth i ni gymryd trem yn ôl ar ein 21+1 o flynyddoedd hyd yma o weithio i gefnogi’r traddodiadau cerddorol sydd mor bwysig i ni fel cenedl, mae Trac Cymru hefyd wrthi’n cynllunio ein rhaglen nesaf o gefnogaeth i roi cymorth i’r to nesaf o gerddorion ifanc o Gymru ddod yn sêr y genedl yn y dyfodol.
Gallwch helpu ni drwy rannu’r straeon yma gyda’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr, ac ymunwch â ni i bostio atgofion hapus eich hun am gerddoriaeth werin Gymreig ar eich cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TRAC21, a gallwch ein helpu i ariannu ein rhaglen i bobl ifanc trwy gyfrannu heddiw.