Yr Arbrawf Mawr
Cynhaliwyd yr Arbrawf Mawr – ‘ysgol werin’ i bobl o bob oedran – o 2008 i 2017 fel prif ddigwyddiad blynyddol Trac Cymru Daeth cant o werinwyr o ledled Cymru i dreulio benwythnos gyfan yn chwarae, canu a dawnsio. Gallent wella eu techneg, arbrofi gydag offerynnau anghyfarwydd, profi gwahanol fathau o ganeuon a dawnsiau, a gwneud ffrindiau newydd ar yr un pryd. Dros benwythnos llawn dop gyda chanu, cherddoriaeth a dawnsio, roedd bron 30 awr o hyfforddiant a gweithgareddau, gan gynnwys grwpiau offerynnol cymysg, canu, dawns werin a dawns y glocsen, gweithdai blasu a sesiynau.
Cynhaliwyd yr Arbrawf Mawr ambell waith ar Ynys Môn, ambell waith yn Sir Benfro neu Gaerfyrddin. Roedd croeso cynnes i’r Gymry Cymraeg, i ddysgwyr ac i’r di-Gymraeg. Helpodd ein cyfieithydd-ar-y-pryd, Martin Davies, ddysgwyr a’r di-Cymraeg i ddeall mwy ac roedd croeso arbennig i grwpiau dysgwyr, a daeth rhai ohonynt yn arbennig i fwynhau penwythnos dwyieithog lle gallent ymarfer eu sgiliau iaith gyda Chymry Gymraeg.
Dros y blynyddoedd mae rhestr y tiwtoriaid yn darllen fel ‘pwy ydi pwy’ o’r byd werin yng Nghymru – Stephen Rees, Arfon Gwilym, Siân James, Oli Wilson-Dickson, Patrick Rimes, Robin Huw Bowen, Pat Smith, Guto Dafis, Huw Williams, Bethan Nia, Tudur Phillips, Beth Williams-Jones, Sioned Webb, Robert Evans, Mair Tomos Ifans, Angharad Jenkins, Gwilym Bowen Rhys, Stacey Blythe a llawer mwy. I ddechrau, gwnaethom wahodd enwau gorau o du hwnt i Gymru fel tiwtoriaid gwadd: Brian McNeill (Battlefield Band) o’r Alban, Brian Finnegan (Flook) o Iwerddon, Karen Tweed ac Alistair Anderson o Loegr. Mewn blynyddoedd diweddarach fe wnaethom ganolbwyntio ar dalent a repertoire Cymru wrth i’r cwrs dyfu o 33 o gyfranogwyr i dros gant.
Roedd y dyddiau’n llawn dop. Roedd dosbarthiadau bore yn gwrs mewn chwarae, canu neu glocsio. Roedd dosbarthiadau ensemble ar gyfer offerynnau ar lefel sylfaen, canolradd ac uwch. Roedd gan y cantorion eu llinyn canu gwerin eu hunain, fel arfer yng nghwmni un o hoelion wyth y traddodiad, Arfon Gwilym. Dysgodd clocswyr o lefel ganolradd i lefel uwch gyda Bethan Rhiannon o Calan, ac roedd gan ddechreuwyr pur a’r rhai a oedd yn ‘gloywi’ grŵp ar wahân, yn aml gyda Huw Williams neu Tudur Phillips.
Roedd arlwy’r prynhawn yn cynnwys ystod o weithdai ‘annibynnol’, wedi’u teilwra i wneud yn siwr nad oedd neb yn colli m’as, pe bynnag oedd eu dewis yn y boreau. Roedd y rhain yn agored i’r cyhoedd a byddai’r amserlen fel arfer yn cynnwys gweithdai fel
• Carolau Haf gydag Arfon
• ClogFit! gyda Tudur Phillips
• Technegau i’r ffidlwyr
• Dawnsio gwerin
• Baledi Gymraeg
• Patrymau rhythm i’ch alawon
• Gweithdai telyn
• Dawns y Glocsen i bawb
• Ysgrifennu caneuon
• Rhowch dro ar y Crwth
Roedd y nosweithiau yn cynnwys cyngherddau, twmpathau , sesiynau caneuon, sesiynau offerynnol araf a chyflym, a ffilmiau gwerinol.
Roedd lleoedd bwrsariaeth i bobl ifanc a grŵp bore arbennig ar gyfer plant rhwng 7-10 oed. Ar ôl rhai blynyddoedd, fe wnaethon ni greu Gwerin Gwallgo i alluogi’r holl gyfranogwyr yn eu harddegau i gael penwythnos gwerin eu hunain, ac yna Gwerin Iau i’r plant ieuengaf.
Trwy’r Arbrawf Mawr, gwnaethom gwrdd â Gwen Mairi, a aeth ymlaen i ymuno â’n prosiect 10 Mewn Bws a arweiniodd at cyfleoedd recordio fel telynores gwerin Cymreig yn ogystal â thiwtora ‘r Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Fe wnaethon ni gwrdd â’r canwr a ffliwtydd Huw Evans a ymunodd hefyd â 10 Mewn Bws, a Jess Ward sydd ers hynny wedi rhyddhau dau albwm o delyn a chaneuon. Dechreuodd rheolyddion yr Arbrawf Mawr clybiau alawon lleol ym Machynlleth a Llanilltud Fawr. Dysgodd a datblygodd rhai o gerddorion gwerin cyfoes blaenllaw Cymru fel Aneirin Jones a Jordan Price Williams (y ddau ohonynt sy’n chwarae gyda Vri) ochr yn ochr â dwylo mwy profiadol ar y penwythnosau cofiadwy hyn.