Nodiadau i olygyddion
Sefydliad datblygu diwylliant gwerin Cymru yw Trac Cymru; mae’n gweithio i hyrwyddo a datblygu traddodiadau cerddoriaeth a dawns Cymru, yng Nghymru a thu hwnt ac mae’n ymddwyn fel eiriolydd ar ran y celfyddydau traddodiadol gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill. Fe gafodd ei sefydlu yn 1997 ar sail y gred gyffredin ym mhwysigrwydd a gwerth diwylliant traddodiadol Cymru, ymwybyddiaeth o’i pherthnasedd parhaus i’r presennol, ac angerdd dros rannu’r hyn sydd gan draddodiadau cerddorol i’w cynnig.
Heddiw, mae Trac Cymru yn datblygu cerddoriaeth a dawns werin Cymru mewn modd strategol drwy feithrin diddordeb a thalent a chyflwyno cerddorion gwerin gorau Cymru ar draws y byd. Fe welwch Trac Cymru ar waith mewn ysgolion, lleoliadau cymunedol, ar gaeau gwyliau a mewn digwyddiadau arddangos rhyngwladol, yn helpu i sicrhau bod celfyddydau traddodiadol Cymru yn parhau i gyfoethogi bywydau waeth bynnag oedran, cefndir, hil, neu iaith.
Yn 2000 daeth Trac Cymru yn Elusen Gofrestredig ac yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant. Maen cael ei redeg gan dîm gweithredol a gaiff ei gefnogi gan fwrdd o ymddiriedolwyr ymroddgar sydd yn teimlo’n angerddol dros ddiwylliant gwerin ac yn arbenigwyr yn eu meysydd perthnasol.
Adnoddau lluniau
Cerddorion ifanc yng ngwrs trac ar gyfer plant 7-11, Gwerin Iau
Ym mhrosiect 10 Mewn Bws, daeth cerddorion proffesiynnol at eu gilydd i greu sioe a CD’n seiliedig ar gerddoriaeth traddodiadol Cymreig
Mae llwyth o delynau yng nghwrs trac i’r arddegau, Gwerin Gwallgo
Tad a mab yn cyd-cerddori yng nghwrs trac Yr Arbrawf Mawr
Ffidlwyr yn ymgolli eu hunain yng ngherddoriaeth ‘sesh’ Ty Gwerin
Gitarydd ifanc yng nghwrs trac Gwerin Gwallgo
Gitaryddion ifanc yng ngwrs trac ar gyfer plant 7-11, Gwerin Iau
Cerddorion ifanc yn cael hwyl yng nghwrs trac ar gyfer plant 7-11, Gwerin Iau
Sesh o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig tu allan i’r Ty Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol