Mae Trac Cymru yn bwriadu cynyddu ei fanc o hwyluswyr creadigol i helpu i gyflawni ei uchelgais ar gyfer rhaglen gynyddol o weithdai cerddoriaeth gyffrous mewn ysgolion a grwpiau cymunedol ledled y wlad.
Wrth i’r byd cerddoriaeth ddod allan o gysgod y pandemig, mae Trac Cymru wedi bod yn cynllunio datblygiad rhaglen newydd helaeth o ymgysylltu diwylliannol yr ydym yn bwriadu ei chyflwyno i fwy o gymunedau ledled Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn parhau i feithrin rhagoriaeth yn y celfyddydau cenedlaethol ac ochr yn ochr â hyn rydym am gael effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd cyfranogwyr unigol ar lefel leol.
Ein huchelgais ar gyfer y dyfodol yw sicrhau bod ein cerddoriaeth genedlaethol yn cael ei theimlo fel calon y genedl, ac i wneud i hyn ddigwydd rydym yn awyddus i gynyddu cynhwysiant ac amrywiaeth yn y sector cerddoriaeth draddodiadol ac yn bwriadu arwain prosiectau newydd beiddgar sy’n defnyddio rhinweddau cynhenid cydlyniant cymunedol sydd wrth wraidd ein traddodiadau gwerin – yn enwedig mewn cyfnewid unigryw rhwng cenedlaethau o wybodaeth ar y cyd ac adrodd straeon mynegiannol.
Un enghraifft o’n cynlluniau prosiect newydd yw’r prosiect 3 blynedd newydd ‘Cân y Cymoedd’, a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol – nod y prosiect tair blynedd hwn yw cysylltu cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot â’u hanes a’u treftadaeth leol wrth archwilio traddodiadau cyfoethog cerddoriaeth werin Cymru ac ar yr un pryd, yn ysbrydoli cyfansoddiad caneuon newydd sy’n adrodd straeon am fywyd cyfoes.
Mae Trac Cymru bellach yn chwilio am hwyluswyr creadigol sy’n awyddus i ymuno â ni ar y daith hon. Mae rhai cyfleoedd un fuan, ond rydym hefyd am ddatblygu grŵp rhanddeiliaid o artistiaid sy’n gweithio yn y traddodiadau y gallwn eu cefnogi gyda hyfforddiant yn y dyfodol a chyfleoedd datblygu proffesiynol eraill.
Efallai rydych yn gweithio ym myd cerddoriaeth, cân, dawns, neu adrodd straeon – rydym yn awyddus i glywed gennych.
Os ydych wedi bod yn chwilio am gyfle fel hyn llenwch ein Ffurflen Hwylusydd Creadigol isod, gan roi gwybodaeth i ni am eich profiad a’ch set o sgiliau 👇