Bellach, mae modd dewis Cerddoriaeth Werin Draddodiadol o Gymru fel rhan o gwrs TGAU Cerddoriaeth CBAC. Bu Trac Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r corff Celfyddydau ac Addysg, NAWR, i gynhyrchu pecyn adnoddau i athrawon a thiwtoriaid cerdd, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg fel dogfennau PDF i’w lawrlwytho neu trwy wefan adnoddau addysgol Llywodraeth Cymru, Hwb.
Comisiynwyd yr addysgwr a’r cyfansoddwr Sioned Webb gan Trac i ysgrifennu’r pecyn, sydd yn llawn darluniau ac yn cynnwys dolenni fideo ac ymarferion.
Mae’r pecyn yn helpu athrawon i:
• ddysgu am y traddodiadau hyn a sut i’w cymharu â cherddoriaeth glasurol y Gorllewin a genres cerddoriaeth cyfoes
• gweithio gyda myfyrwyr ar waith cyfansoddi, ensemble, ffilm a pherfformio
• archwilio materion ehangach sy’n ymwneud â hunaniaeth ac amrywiaeth o fewn y cwricwlwm newydd.
Fel adnodd academaidd, mae cerddoriaeth draddodiadol Cymru yn gyfrwng perffaith i archwilio’r Cwricwlwm i Gymru, y Fagloriaeth Gymreig a’r maes llafur TGAU yn gyffredinol. Mewn cyd-destun ehangach, mae’r gerddoriaeth hon yn fan cychwyn ardderchog i archwilio diwylliant, iaith a hanes Cymru a’n lle o fewn byd cynyddol amrywiol.
Cysylltwch â ni trwy e-bostio trac@trac-cymru i dderbyn eich copi digidol i’w lawrlwytho am ddim yn y Gymraeg, y Saesneg, neu’r ddwy iaith.