Cyfres atgofus o ffilmiau byrion yw Ffwrnes Gerdd, sy’n cynnwys cerddorion blaenllaw o Gymru gan gynnwys Angharad Jenkins, Bernard KilBride, Brychan Llyr, Cass Meurig Thomas, Gareth Bonello, Gareth Westacott, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn Emyr, Huw Roberts, Katell Keineg , Kizzy Crawford, Lisa Jen Brown, Lowri Evans & Lee Mason, Mike Lease, Oliver Wilson-Dickson, Patrick Rimes, Richard James, Robert Evans, Ryland Teifi, Stephen Rees, Gwilym Bowen Rhys, ac Idris Jones.
Mae pob cerddor yn siarad am eu taith greadigol a cherddorol, ac yn chwarae neu’n canu hoff ddarnau. Wedi’i ffilmio’n hyfryd yn lleoliad bistro, Ffwrn yn Abergwaun, mae gan y gyfres isdeitlau yn Saesneg.
Sgriniodd S4C y gyfres fel dwy raglen arbennig awr o hyd ar deledu amser brig fel rhan o wythnos arbennig o raglennu gwerin, gan ei disgrifio fel “taith weledol a chlywedol fythgofiadwy i fyd rhyfeddol gwerin draddodiadol Cymru”.
Enillodd fersiwn ffilm Ffwrnes Gerdd wobr ganmoliaeth yn y 4edd Ŵyl Ffilm Cerddoriaeth Werin Ryngwladol yn Kathmandu, am y Ffilm Hir Orau.
Roedd y gyfres yn rhan o brosiect Trac Cymru, ac fe’i crewyd a chyd-gynhyrchwyd gan Gerard KilBride a Gethin Scourfield mewn partneriaeth gydag S4C.