Mae Cân y Cymoedd yn prosiect sy’n rhedeg ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot sy’n ymroddedig i feithrin creu cerddoriaeth werin Gymreig newydd trwy ddod â phobl ifanc, cymunedau a cherddorion profiadol at ei gilydd.
Safleoedd Treftadaeth yn Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot
Nod y prosiect tair blynedd hwn yw cysylltu cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot â’u hanes a’u treftadaeth leol wrth archwilio traddodiadau cyfoethog cerddoriaeth werin Cymru, i ysbrydoli cyfansoddiad caneuon newydd sy’n adrodd straeon am fywyd cyfoes.
Beth?
Mae Cân y Cymoedd, is-frand o Trac Cymru, sy’nymroddedig i feithrin creu cerddoriaeth werin Gymreig drwy ddod â phobl ifanc, cymunedau a cherddorion profiadol at ei gilydd.
Sut?
Byddwn yn cyflawni hyn drwy ymgysylltu â gweithdai mewn ysgolion cynradd a grwpiau cymunedol, eu haddysgu am hanes eu sir, yn annog iddynt rannu eu profiadau o’u sir, a thrawsnewid eu geiriau a’u straeon i ganeuon gwerin Gymreig newydd hardd.
Pam?
Ein cenhadaeth yw dathlu cerddoriaeth a chân werin Cymru, i gyfoethogi ein diwylliant trwy gerddoriaeth, ac addysgu’r genhedlaeth iau a chymunedau Cymreig am harddwch a threftadaeth eu traddodiadau cerddorol.
Prosiect Ysgol Gynradd Ynysboeth
Roedd ein sesiynau gweithdy cyntaf yn Ysgol Gynradd Ynysboeth yn RhCT, gyda’r cerddor Gareth Bonello yn arwain.