Skip to main content

Carolau Mai

Carolau Mai: caneuon i groesawi’r haf

Y diwrnod cyntaf o Dachwedd oedd diwrnod cyntaf y flwyddyn yn ôl y dull Celtaidd o gyfrif. Calan Mai, felly, oedd diwrnod cyntaf tymor yr haf.

Pa well reswm oedd ei angen dros ddathlu?

Prif atyniad Calan Mai oedd gosod y pawl haf, ei addurno â blodau a rhubanau, a’i adael dros yr haf. Dawnsio oedd un arall o’r atyniadau, a’r Cymry yn medru gwau a throelli gyda’r gorau. Cadwyd toreth o garolau Mai hefyd. Mewn llawysgrifau y ceir y rhai cynharaf, ond o’r ddeunawfed ganrif ymlaen maent yn ymddangos yn yr almanaciau ac mewn pamffledi baledi. Lluniwyd y carolau ar fesurau ysgafn, tebyg i fesurau dawns, ac mae’n amlwg o’r mydr fod y cantorion yn mwynhau ei morio hi drwy’r carolau gydag arddeliad.

A pham yr holl firi a rhialtwch? Roedd yr hen bobol yn credu y byddai’r egni roedden nhw’n ei greu wrth ganu a dawnsio yn effeithio ar egni’r ddaear wrth iddi hithau dyfu cnydau, ac wrth i’r anifeiliaid epilio a bridio a phrifio.

Weithiau cyfunid cân a dawns, er enghraifft yng nghaneuon neu rigymau’r Cadi Ha:

Lada Ca a Morus dda, mi neidia dros dy ben di,
Lodo goch a rhuban coch, am y gore neidio.

Ac mae’r Fonesig Herbert Lewis yn dweud iddi daro ar dlodlion yn dawnsio yn yr Wyddgrug ac yn neidio am yr uchaf wrth ganu Cadi Ha. Y pwrpas oedd deffro’r ddaear, a hefyd ddychryn ysbrydion drwg a allai rwystro’r broses o dyfu.

Mae’r cyfeiriadau at fuwch a llo yn rhai o ganeuon y Cadi Ha yn awgrymu bod y dathlu yn cynnwys bendithio’r anifeiliaid:

Cynffon buwch a chynffon llo,
A chynffon Richard Parry;
Hac, ha wen!

Mae penillion eraill sy’n mawrhau’r ffaith fod byd natur mor fras ac mor llawn fel nad oes neb yn teimlo’r golled, na hyd yn oed yn sylwi, pan mae’r anifeiliaid, sydd wedi bod yn llwgu drwy lymder y gaeaf, yn boddio’u gwanc am fwyd:

Fe wna’r anifeiliaid foliau
Fu’n clemio i aros C’lamai,
Pob un a lanw ei lwynau
Heb fod mo’r llysiau’n llai.

Ac os yw’r anifeiliaid yn cael eu siâr o’r fendith wanwynol, mae’r hil ddynol hefyd. Mis Mai yw’r tymor i gariadon adfywio ar ôl oerfel y gaeaf. Mae anogaeth yn y carolau Mai i’r bobl ifanc, yng ngwres yr haul, deimlo gwres yn eu calonnau tuag at ei gilydd ac i ymroi i serch. Ond mae yn y carolau hefyd rybuddion. Ceir cynghorion i fod yn ofalus rhag i’r ‘meibion mawr eu cariad’ gynnig ‘codwm anllad’ i ferched diniwed. Mae nwydau serch yn arbennig o gryf ym mis Mai, a diwedd y stori i sawl un fydd pennu dyddiad priodas. Gall ‘cynhyrfiad cynnar haf’ fod yn bellgyrhaeddol!

Pobol fore ar eu traed oedd carolwyr Calan Mai. Gweithgaredd ar gyfer y bore bach oedd y daith ganu o gwmpas y tai, a châi’r carolwyr hwyl fawr ar ganu wrth ddrysau lle byddai’r teuluoedd a’u gweithwyr yn dal i gysgu. Wedi galw am wrandawiad, eu pleser mawr oedd cael cyhoeddi dyfodiad tymor yr haf, gyda holl oblygiadau hynny. Dyma gyfle i longyfarch pobol y fro am weld haf arall, a manteisient ar y cyfle i’w hannog i ddathlu. Ar ôl disgrifio caledi’r gaeaf, y prinder a ddioddefwyd, a’r ddrudaniaeth, nodyn pwysicaf y cerddi Mai yw gorfoledd am fod yr annifyrrwch bellach drosodd, a bod tymor digonedd wedi dod. Mae’r tywydd yn gynhesach, mae’r adar yn canu mawl i Fai, a’r blodau fel cwrlid dros y wlad.

Cyn gadael y cartref, fe ddymunid lwc a bendith ar y ty a’r trigolion, ac ar eu heiddo yn anifeiliaid, yn gnydau a ffrwythau gardd a maes. Yn dâl am daenu lwc dros y tir fe ddisgwylid yn ôl galennig: ‘Chwi a wyddoch fy musnes, nid ydwy ddyn gwyl’. Yna fe ffarwelid â’r cartref tan ymhen y flwyddyn.

Rhiannon Ifans

Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yng nghylchgrawn Ontrac.

Isod gallwch wrando ar bedair fersiwn wahanol iawn o’r Carol Mai mwyaf poblogaidd, Mae’r Ddaear yn Glasu.

Skip to content