Dyddiadau | 28ain – 31ain o Hydref 2024
Cwrs preswyl bywiog i bobl ifancu o 11 i 18 mlwydd oed yw Gwerin Gwallgo . Mae’r cwrs pedwar diwrnod yn digwydd yng Nglanllyn, canolfan breswyl yr Urdd yn y Bala. Mae yna llefydd ar gael i hyd at 40 o bobl ifanc.
Beth sy’n digwydd ar y cwrs?
Bydd gweithdai offerynnol, canu a chlocsio yn ystod y dydd, yn dilyn sesiynau anffurfiol, cyngherddau, twmpathau, a mwy gyda’r nos! Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan yn rhai o’r gweithdai awyr agored sydd gan Glan-llyn i’w gynnig. Tua diwedd y cwrs, bydd cyfle i berfformio.
Gweithdai offerynnol
Rhaid bod gan bob chwaraewr ei offeryn ei hun, a rhaid ei fod/bod yn gallu chwarae i o leiaf safon sylfaenol. Gofynnir i offerynwr nodi ei lefel profiad ar y ffurflen gofrestru, gan ddewis un o’r opsiynau canlynol:
- Dechreuwr: yn meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o’r offeryn; yn gallu chwarae graddfeydd syml ac ychydig o alawon syml.
- Canolradd: chwaraewr sy’n dechrau ennill hyder a sy’n weddol gyfarwydd â gwahanol mathau o alawon.
- Uwch: chwaraewr hyderus sydd wedi cael tipyn o brofiad perfformio.
Nid yw’r gallu i ddarllen cerddoriaeth, neu brofiad blaenorol o gerddoriaeth werin, yn ofynnol. Ar ôl y traddodiad, bydd y rhan fwyaf o’r gweithdai yn cael eu dysgu ar y glust.
Gweithdai Canu
Mae’r gweithdai canu yn agored i bawb. Nid oes angen profiad blaenorol o ganu gwerin.
Gweithdai Dawnsio
Ar Gwerin Gwallgo 2024 bydd dau ddosbarth dawnsio clocsio; un canolradd ac un uwch.
Stiwdio
Mae yna hefyd stiwdio Gwerin Gwallgo, lle gall ein cerddorion a’n dawnswyr ifanc recordio cerddoriaeth a chael sesiynau blasu ar ddefnyddio stiwdio.
Tiwtoriaid
Tiwtoriaid Gwerin Gwallgo 2024 bydd:
Beth Williams Jones – clocsio
Beth Celyn – canu,
Patrick Rimes – ffidil
Aneirin Jones – ffidil
Rhys Morris – gitar
Huw Williams – clocsio
Awen Blandford – soddgrwth ac offerynnau cymysg
Osian Gryffudd – stiwdio
Gwen Màiri – telyn
Beth mae pobl yn dweud amdano?
“Dwi o hyd yn edrych ‘mlan at y sesiynau yn Gwerin Gwallgo. Maen nhw o hyd yn fywiog ac yn lot o hwyl. Does dim nifer o gyfleoedd yng Nghymru i grŵp o bobl ifanc i ddod at ei gilydd a mwynhau chwarae cerddoriaeth gwerin mewn modd anffurfiol. Mae chwarae gyda phobl yr un oedran a fi yn gwneud fi’n fwy angerddol am y gerddoriaeth sy’n golygu fy mod eisiau parhau i ddatblygu fy sgiliau chwarae ym mhellach.”
“Mae’n dda fod y tiwtoriaid yn bobl sy’n perfformio ar y sin a bod nhw ddim jyst yn athrawon cerdd da. Mae hyn yn golygu fod y bobl ifanc yn dod ar draws pob math o fandiau a cherddoriaeth newydd. Mae diddordeb y bobl ifanc y golygu fod yn sin yn tyfu sydd wedyn yn bwydo nôl mewn i lwyddiant Gwerin Gwallgo drwy ddenu mwy o bobl ifanc i chwarae cerddoriaeth gwerin.”
“Gwerin Gwallgo yw’r unig siawns dwi’n cael i ddysgu clocsio. Mae’r awyrgylch ar y cwrs yn un hynod gyfeillgar a dwi wedi neud lot o ffrindiau dros y blynyddoedd”.
Y darlun mwy
Mae Gwerin Gwallgo yn ein helpu i ddod â’r genhedlaeth nesaf o gerddorion a thiwtoriaid proffesiynol ymlaen yn ogystal â’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth werin a dawnsio i’r hwyl ohoni. Tyfodd o benwythnos gwerin Trac Cymru, yr Arbrawf Mawr, fel ffordd i roi digwyddiad eu hunain i’n harddegau talentog. Ffurfiodd bandiau ifanc fel Beca a Tant yno, a rhoddodd gyfleoedd i rai yn eu harddegau hŷn ddychwelyd fel gwirfoddolwyr. Aeth rhai, fel Aneirin Jones o Vri a Rhys Morris o Avanc, ymlaen i fod yn diwtoriaid cynorthwyol ac yna’n diwtoriaid proffesiynol llawn ar y cwrs. Aeth nifer o ‘raddedigion’ eraill ymlaen i ymuno ag Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru, sy’n perfformio ar hyn o bryd dan enw Avanc.
Bwrsariaethau
Ry’n ni’n awyddus i’r cwrs hwn gael ei fwynhau gan bawb. Mae gennym dri lle â chymorth i gymdeithion a darpariaeth ar gyfer dehonglwyr. Ry’n ni hefyd yn cynnig adeiladwr atodeg hygyrchedd a ddatblygwyd gan Gelfyddydau Anabledd Cymru. Mae hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddweud wrthym am unrhyw ofynion corfforol a niwroamrywiol a allai fod gyda chi. Mae ein bwrsarïau wedi’u cynllunio i gefnogi pobl a allai wynebu rhwystrau ariannol i gael mynediad i’n cyrsiau. Mae gennym ddeg o lefydd bwrsari ar gael.
Cysylltwch â jordan@trac-cymru.org am fwy o wybodaeth.
Pris y cwrs: £290
Bwrsari: £50