Beth yw Trac Cymru?
Trac Cymru yw sefydliad Datblygu Traddodiadau Gwerin Cymru; mae’n gweithio i hyrwyddo a datblygu traddodiadau cerdd a dawns Cymru, yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’n ffocysu ar ddathlu traddodiadau cerdd a dawns Cymru, datblygu ein perfformwyr o ddechreuwyr hyd at y llwyfan rhyngwladol, sbarduno diddordeb a gwneud yn siwr bod ein celfyddydau traddodiadol yn parhau i fod yn rhan berthnasol a chraidd o’n bywyd diwylliannol a’n hunaniaeth fywiog.
Pam y ffurfiwyd Trac Cymru?
Ffurfiwyd Trac Cymru oherwydd bod angen tynnu sylw at, a darparu ffocws datblygiad ar, draddodiadau cerdd a dawns Cymru, fel bod modd eu cynnal a’u meithrin yn yr un ffordd â genres diwylliannol eraill megis, er enghraifft ac ymysg disgyblaethau eraill, cerddoriaeth glasurol a chyfoes. Ffurfiwyd Trac Cymru yn 1997 gan grŵp o gerddorion gwerin a chefnogwyr a oedd yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd ein diwylliant traddodiadol ac yn ymwybodol o’i berthnasedd parhaus i’r presennol, ac yn frwd dros rannu’r hyn sydd gan draddodiadau cerdd i’w cynnig.
Beth mae Trac Cymru yn ei wneud?
Mae Trac Cymru yn cynhyrchu cyfleoedd i annog cyfranogiad gyda thraddodiadau cerdd Cymru. Mae hefyd yn gweithio i ddatblygu sgil a thalent ac i gyflwyno esbonwyr gorau’r traddodiad ar lwyfannau rhyngwladol. Yn ogystal, mae Trac Cymru yn eirioli ar ran y Traddodiad gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill.
Byddwch yn dod ar draws Trac Cymru yn gweithio mewn ysgolion, mewn lleoliadau cymunedol, ar gaeau gwyliau ac mewn digwyddiadau arddangos ryngwladol, yn helpu sicrhau bod celfyddydau traddodiadol Cymru yn dal i gyfoethogi bywydau, ni waeth beth yw oedran, cefndir, hil neu iaith y bobl dan sylw.
Ar gyfer pwy mae Trac Cymru?
Mae trac yn gweithio gyda phobl sy’n ymwneud â cherddoriaeth werin, er mwyn datblygu cerddorion gwerin a chynulleidfaoedd y dyfodol. ‘Rydym yn mwynhau gweithio gyda cherddorion, cantorion, dawnswyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Os oes gennych ddiddordeb yn ein celfyddydau gwerin mae gennym rhywbeth i’w rannu gyda chi.
Pwy sy’n ei gyllido?
Mae Trac Cymru yn derbyn y mwyafrif o’i gyllid craidd oddiwrth Gyngor Celfyddydau Cymru, arian sy’n cael ei ddyrannu’n flynyddol ac a briodolir ar sail cynllun busnes a gytunwyd arno. Mae ein prosiectau yn aml yn cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol, gan ddefnyddio arian a geisir amdano’n flynyddol a hynny hefyd drwy law Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn ogystal, fel elusen gofrestredig, ‘rydym yn codi arian ar gyfer ein prosiectau a’n gweithgareddau. Mae’r cymorth hwn yn dod ar ffurf y partneriaethau y byddwn yn eu ffurfio gyda mudiadau o’r un anian a ni, ac oddiwrth ymddiriedolaethau a sefydliadau. ‘Rydym hefyd yn cynhyrchu ffrydau refeniw bach o’r cyrsiau preswyl a’r gweithdai y byddwn yn eu trefnu.
Sut gall Trac Cymru fy helpu i?
Mae’r ffordd y gallwn ni eich helpu yn dibynnu ar eich anghenion chi; ydych chi’n ymarferwr neu’n gefnogol o draddodiadau gwerin Cymru neu, yn wir, yn chwilio am wybodaeth ynghylch y sector diwylliannol hwn?; ymhob achos, mae’n siwr bod gennym rhywbeth i’w rannu gyda chi. Os ydych yn ymarferwr mae gennym ystod o adnoddau, gweithgareddau ac hyfforddiant defnyddiol ar eich cyfer, yn amrywio o gerddoriaeth a sgiliau hyd at waith ymchwil a gwybodaeth fusnes gerddorol. Ar gyfer y rhai sydd, yn syml, yn mwynhau cerddoriaeth werin ‘rydym yn darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau, sesiynau blasu a chipolwg diddorol ar fywydau a gwaith ein perfformwyr mwyaf blaenllaw.
Mae ein gwefan yn le da i ddechrau. Yma cewch fynediad at ddyddiadur yn restru digwyddiadau gwerin yng Nghymru, ffilmiau a gwybodaeth ynghylch ein traddodiadau, ein cynheiliaid y traddodiad a’n dehonglwyr mwyaf blaenllaw, cyfleoedd ar ddod ar gyfer artistiaid proffesiynol a gweithdai a chyrsiau preswyl i’r rhai sydd am wella’u sgiliau a darganfod cymuned o selogion gwerin o’r un anian. Mae hefyd alawon a chaneuon i’w dysgu, ynghyd â llawer iawn mwy.
Pam mae dal angen Trac Cymru?
Mae celfyddydau traddodiadol Cymru yn gonglfeini hunaniaeth ein gwlad. Mae ein cerddoriaeth, ein caneuon, cerdd dant, dawns a chwedlau yn cynnal ac yn mynegi ein hanes, ieithoedd, diwylliant a’n ffordd o fyw nodweddiadol. Mae’r ffurfiau creadigol hyn yn rhan greiddiol o’n diwylliant, a’r gwerthoedd a’r emosiynau sy’n ein clymu at ein gilydd.
Yn Trac Cymru, ‘rydym yn frwd ynghylch adnewyddu ac ailfywiocau’r ffurfiau hyn ar fynegiant er mwyn ysbrydoli ein cenedlaethau ifancach a pharchu crefft cynheiliaid y traddodiad. Heb gynhaliaeth ac anogaeth, mae’r ffurfiau mwy traddodiadol hyn yn colli allan ar fuddsoddiad a ffocws i ffurfiau cerddorol clasurol a chyfoes, ac felly mae perygl y byddant yn troi’n greiriau mewn amgueddfa, yn hytrach na pharhau’n draddodiad gwerin byw sy’n ysbrydoli’n diwylliant cyfoes a’n hymdeimlad o hunaniaeth.
Mae ein traddodiadau cerdd a dawns yn dal i roi pleser a thynnu sylw pobl yma yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn eirioli ar ran y sector gyda’r Llywodraeth ac asiantaethau craidd er mwyn cadw ein diwylliant gwerin ar yr agenda, ochr yn ochr â ffurfiau eraill. ‘Rydym hefyd yn cefnogi cerddorion amatur a phroffesiynol yn ogystal â chynulleidfaoedd, ni waeth beth yw eu hoedran, iaith neu hil, ac ar draws ffiniau, i gael mynediad at, i ddathlu a rhannu’r gorau o’n diwylliant cerddoriaeth werin a sicrhau ei fod yn aros wrth wraidd calon ac enaid ddiwylliannol Cymru.
Ym mha ffordd ydy Trac Cymru yn wahanol i Gerdd Cymunedol Cymru, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ayyb.?
Wrth drefnu ei brosiectau mae Trac Cymru yn ymgysylltu â, ac yn gweithio mewn partneriaeth â, llawer o fudiadau sy’n ymwneud â chreu cerddoriaeth, o’r amatur i’r proffesiynol, a gydag ystod o grwpiau a mudiadau diddordeb arbennig sydd yn rhan o adeiladwaith sîn werin Cymru. Serch hynny, mae ein ffocws yn ehangach, yn nhermau’r celfyddydau gwerin a datblygu sgiliau a gyrfaoedd cerddorion a pherfformwyr. Mae gennym rôl ddatblygu strategol i ddatblygu traddodiadau gwerin Cymru gyfan ac, am y rheswm hwnnw, ‘rydym yn derbyn cyllid oddiwrth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Tra ‘rydym yn eirioli dros ddiogelu’r ffurfiau gwerin traddodiadol, mae hefyd gennym weledigaeth glir at y dyfodol, ac am annog yn weithredol ein cerddorion ifanc a datblygol i ddatblygu’r ffurfiau traddodiadol er mwyn sicrhau bod ein traddodiad yn un sy’n dal yn draddodiad gwerin byw.
Ydy Trac Cymru y cynnig grantiau i gerddorion?
‘Rydym yn cynnig cefnogaeth, arweinyddiaeth a medr, ond ddim yn cynnig cyllid uniongyrchol. Ar gyfer digwyddiadau arddangos bydd trac yn dewis perfformwyr addas ac yn cyflwyno cais am arian i’w galluogi nhw i dalu’u costau teithio a chyflwyno, ond nid ydym yn cynnig grantiau uniongyrchol i berfformwyr. Yn yr un modd, mae ein rhaglenni hyfforddiant a’n cyrsiau preswyl yn derbyn cymhorthdal fel eu bod yn parhau’n hygyrch.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig nifer o gynlluniau grant a fydd, o bosib, o ddiddordeb. Dyma’r ddolen i’r wybodaeth: http://www.arts.wales/ariannu?diablo.lang=cym