Skip to main content

Penwythnos Canu Gwerin

17eg – 19eg o Ionawr 2024

Mae Ambell i Gân yn benwythnos o ganu gwerin Cymreig gyda thri o brif leisiau Cymru – Gwilym Bowen Rhys, Beth Celyn a Gwenan Gibbard.
Mae’r penwythnos yn cael ei gynnal ym Mhlas Caerdeon, ac yn costio £300 am y penwythnos gan gynnwys yr holl brydau bwyd a llety. Mae gostyngiad cynnar ar gael tan fis Tachwedd.

Mae tri dosbarth ar gael:

Dosbarth profiadol: Mae’r dosbarth hwn ar gyfer y rhai sydd eisoes â hyder yn ynganu Cymraeg ac sy’n gantorion profiadol. Disgwylir eich bod yn gallu ynganu geiriau yn Gymraeg yn hyderus.
Dosbarth canolradd: Mae’r dosbarth hwn ar gyfer y rhai sydd â llai o brofiad o’r Gymraeg a/neu sydd wedi cael llai o brofiad canu.
Dosbarth i ddechreuwyr: Mae hwn ar gyfer y rhai sydd efallai â rhywfaint o brofiad canu ond sydd â dim/ychydig o brofiad gyda’r Gymraeg.
Plas Caerdeon:
Bydd Ambell i Gân yn digwydd yng nghanolfan addysg awyr agored Plas Caerdeon yng Nghaerdeon, ger Y Bermo, Gwynedd. Wedi’i leoli ar lan aber hardd Mawddach ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri, dyma smotyn gwych i encilio o brysurdeb y byd a chanolbwyntio ar greu cerddoriaeth – tra’n hawdd ei gyrraedd mewn car (75 munud o Fangor neu Aberystwyth, 3 awr o Gaerdydd). Mae opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael hefyd, gyda gorsaf reilffordd Abermaw a gwasanaethau bws rheolaidd TrawsCymru i Ddolgellau gerllaw.
Mae llety mewn ystafelloedd a rennir, ond gallwn ni ddarparu ar gyfer archebion ystafell grŵp. Atebwch y cwestiynau ar y ffurflen archebu i roi gwybod i ni.
Yn ystod y dydd, cewch gyfle i ymuno â’ch prif grŵp, yn seiliedig ar lefel eich profiad. Gallwch ddewis rhwng grwpiau sylfaenol, canolradd neu brofiadol, lle byddwn yn canolbwyntio ar adeiladu repertoire a thechneg sylfaenol. Byddwn hefyd yn treulio peth amser yn gweithio ar ddarnau y byddwn yn eu canu gyda’n gilydd yn ein côr Ambell i Gân.  Ar wahân i’r prif grwpiau, rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau opsiwn gallwch chi ddewis ohonynt. Bydd rhain yn ymdrin â detholiad o bynciau a ddewiswyd gan ein tîm tiwtoriaid. Os ydych chi wedi dod â’ch esgidiau cerdded ac efallai anorac, gallwch chi hefyd archwilio amgylchoedd hyfryd dyffryn Mawddach!
Mae’r nosweithiau’n cael eu neilltuo ar gyfer cerddoriaeth fwy anffurfiol, gyda sesiynau alaw yn cael eu hannog ledled ardaloedd cyffredin y tŷ. Os ydych hefyd yn chwarae offeryn, dewch ag nhw gyda chi, gan bydd sesiynau offerynnol gyda’r nos hefyd!
Byddwn hefyd yn cynnal cylch canu agored lle gall pawb gymryd tro i rannu caneuon.
Ar y nos Wener byddwn yn dechrau gyda chyngerdd tiwtoriaid arbennig – acwstig ac unplugged – canu gwerin yn ei gartre naturiol! Bydd y tiwtoriaid yn rhannu rhai o’u hoff ganeuon.
Mae’r penwythnos yn gwbl gynhwysol, gyda llety ym Mhlas Caerdeon a phob pryd yn cael ei ddarparu. Gallwn ddarparu ar gyfer gofynion dietegol a darparu ystafelloedd a rennir (un rhyw). Mae cyrraedd ar brynhawn dydd Gwener, a byddwn yn lapio fyny ac yn gadael ar ôl cinio ddydd Sul. Mae dau fath arall o docyn ar gael – dibreswyl, os byddai’n well gennych chi archebu eich llety eich hun ond bwyta eich cinio a’ch swper ym Mhlas Caerdeon, a math newydd o docyn ar gyfer Plas Caerdeon – gwersylla! Os oes gennych chi gartref modur, mae croeso i chi ddod â hwnnw hefyd.
Skip to content