
Cymunedau
Mater i’r ‘bobl’ yw cerddoriaeth draddodiadol, ac mae wedi bod erioed, wedi’i mynegi trwy gerddoriaeth a’i rhannu gan y gymuned. Mae Trac Cymru yn gweithio ar raddfa genedlaethol a lleol, gan ddod ag unigolion a chymunedau sy’n rhannu diddordeb cyffredin mewn cerddoriaeth, cân a dawns ynghyd. Mae llawer o’n prosiectau cymunedol a’n gweithdai allgymorth mewn digwyddiadau a gwyliau yn aml yn defnyddio celfyddydau traddodiadol Cymru fel cyfrwng i greu, archwilio ac ymchwilio i themâu bywyd bob dydd fel hunaniaeth, iaith a diwylliant. Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o'n gwaith cymunedol ar waelod y dudalen hon.



