
Comisiynodd Cyngor Celfyddydau Cymru adolygiad o’r sector Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru. Mae ansawdd ein hartistiaid yn eithriadol o gryf ac mae cerddoriaeth draddodiadol wedi’i gwreiddio mewn cymunedau ledled Cymru, gyda chysylltiad dwfn â’r Gymraeg, diwylliant a’r wlad. Yn gynyddol mae ein cerddoriaeth draddodiadol a’n hartistiaid yn denu sylw rhyngwladol, ac mae ymgysylltu â cherddoriaeth yn helpu i gefnogi lles a datblygiad cymunedol. Mae’r adolygiad hwn yn rhoi cyfle amserol i edrych ar y ffordd orau i CCC gefnogi’r sector a sut y gall y sefydliadau sy’n weithredol yn y sector – ar draws pob lefel – weithio’n fwy cydlynol ar ran ein cerddorion, cymunedau a chynulleidfaoedd.
Penodwyd Angharad Wynne yn Gomisiynydd yr adolygiad a Thŷ Cerdd oedd â’r dasg o reoli’r broses. Mae gan y tîm hwn hanes rhagorol o weithio'n ymgynghorol ar draws sectorau cerddoriaeth Cymru. Antwn Owen-Hicks, sydd â chyfoeth o brofiad personol a phroffesiynol o fewn y sector, oedd y rheolwr prosiect arweiniol ar ran Tŷ Cerdd, a chynigiodd tîm Trac Cymru eu harbenigedd, eu profiad a’u rhwydweithiau. Gyda’n gilydd, edrychwn ymlaen at weithio gyda chi ac eraill ar draws y sector i gyflwyno proses drylwyr a chydweithredol a fydd yn caniatáu ichi gynnig eich barn a rhannu pryderon a syniadau ar gyfer dyfodol y sector pwysig hwn.
Casglwyd syniadau a barn drwy arolwg ar-lein swyddogol a chyfres o gyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru, yn ogystal â rhai sesiynau ar-lein. Ar ôl cwblhau’r broses ymgynghori, byddwn yn cyfuno canfyddiadau ac ymchwil desg sy’n archwilio’r strwythurau a’r strategaethau llwyddiannus a ddefnyddir gan wledydd eraill, i gefnogi eu sectorau cerddoriaeth draddodiadol. Bydd hyn wedyn yn arwain at adroddiad o ganfyddiadau a set o argymhellion ymarferol a fydd yn cael eu cyflwyno i Gyngor CCC yn gynnar yn 2025. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r rhai sydd wedi rhoi o’u hamser a’u hymgysylltiad â’r broses hon, a bydd eich cyfraniadau yn dangos sut orau y gallwn gefnogi sector cerddoriaeth draddodiadol Cymru i ffynnu.
Sylwch fod y dyddiad cyflwyno cais wedi dod i ben ddydd Gwener 15 Tachwedd 2024, ac mae'n parhau i fod AR GAU.
Rhai nodiadau ychwanegol a chefndir a allai fod o ddiddordeb i chi:
Rhagor o wybodaeth am yr adolygiad a Manylion yr Adolygiad Buddsoddi (Mae’r ymyriadau strategol arfaethedig i’w gweld ar dudalen 46.)
Ebostiwch enquiries@tycerdd.org gydag unrhyw gwestiynau.