Tŷ Gwerin: Yr Eisteddfod Genedlaethol

Tŷ Gwerin yw cartref traddodiadau gwerin yn iwrt ysblennydd yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda rhaglen orlawn o berfformiadau, sesiynau, cyfweliadau, a gweithgareddau i blant. Creodd Trac Cymru Dŷ Gwerin yn 2009, gan wahodd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru, Clera (y gymdeithas offerynnau traddodiadol), Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac eraill i ddod at ei gilydd mewn un babell ar faes yr Eisteddfod i ddarparu man cyfarfod i draddodiadau gwerin. Dros y pum mlynedd nesaf tyfodd wrth i ni ychwanegu perfformiadau, gweithdai, sesiynau blasu, a siop oedd yn hyrwyddo artistiaid gwerin heb eu harwyddo, nes i drefnwyr yr Eisteddfod ymuno â ni i gartrefu ein gweithgareddau yn iwrt mwyaf yn Ewrop. Mae Tŷ Gwerin wedi dod yn un o’r mannau mwyaf poblogaidd ar faes yr Eisteddfod, lle gallwch archwilio perfformiadau gwerin traddodiadol ac arbrofol o gerddoriaeth, dawns, canu a stori. Rydym yn falch o fod wedi hadu rhan mor hanfodol o’r Maes heddiw.

Dyma rhai o’r lluniau a fideos o Tŷ Gwerin ar hyd y blynyddoedd!