Datblygu traddodiadau gwerin Cymru
trac yw sefydliad Datblygu Traddodiadau Gwerin Cymru. Mae ein gwaith ni yn ffocysu ar ddathlu traddodiadau cerdd a dawns Cymru, datblygu perfformwyr – o ddechreuwyr hyd at y llwyfan rhyngwladol – annog diddordeb a gwneud yn siwr bod ein celfyddydau traddodiadol yn aros yn rhan berthnasol a chreiddiol o’n bywyd diwylliannol a’n hunaniaeth egnïol.
Ydych chi’n chwilio am artistiaid gwerin proffesiynol i’w llogi??
Mae ein CYFEIRIADUR yn cynnig manylion cyswllt cerddorion ac adroddwyr storiau, gwneuthurwyr offerynau, grwpiau dawns, arweinwyr gweithdai a thiwtoriaid.
Beth sy’n digwydd? Mae ein hadran DIGWYDDIADAU yn cynnig gwybodaeth i ymwelwyr a phobl leol am ddigwyddiadau gwerin rheolaidd ac un-tro yng Nghymru
Os hoffech chi wybod mwy am gelfyddydau traddodiadol Cymru, gallwch weld fideos, dysgu alawon a chaneuon a darllen am eu cefndir yn ein parth ADNODDAU.
Ar Facebook a Twitter cewch weld y newyddion diwedddaraf am y celfyddydau gwerin yng Nghymru, felly hoffwch a dilynwch ni er mwyn cadw mewn cyswllt a thanysgrifiwch am ddim i’n rhestr e-bost “e-newyddion” hefyd.