
Amdanan Ni
Wedi’i sefydlu gan gerddorion a chefnogwyr gwerin, mae Trac Cymru yn sefydliad datblygu gwerin sydd wedi bod yn meithrin, hyrwyddo a chefnogi celfyddydau a diwylliant traddodiadol Cymru ers 1997.
Mae Trac Cymru yn cynnwys tîm mewnol bach, sy’n gweithio gyda phobl greadigol llawrydd gwych a phartneriaid i greu cyfleoedd a gofodau i’r celfyddydau traddodiadol gael eu dysgu, i ffynnu ac i esblygu. Fe welwch ni’n gweithio gydag artistiaid, ysgolion, cymunedau, ar feysydd gŵyl ac mewn sioeau rhyngwladol, gan helpu i sicrhau bod celfyddydau traddodiadol Cymru yn parhau i gyfoethogi bywydau.
Ewch i’r dudalen ‘Ein Gwaith’ ac archwiliwch 4 elfen allweddol yr hyn a wnawn.
-
Ein cenhadaeth yw sicrhau bod celfyddydau gwerin Cymru yn parhau i fod yn draddodiadau byw, sy'n tyfu ac yn esblygu gyda phob cenhedlaeth newydd.
-
Celfyddydau traddodiadol Cymru wrth galon bywyd cyfoes Cymru.
FAQs
-
Sefydliad datblygu gwerin yw Trac Cymru sy’n meithrin, hyrwyddo a chefnogi celfyddydau a diwylliant traddodiadol Cymru.Mae’n canolbwyntio ar ddathlu traddodiadau cerddoriaeth a dawns Cymru, datblygu perfformwyr o ddechreuwyr i’r llwyfan rhyngwladol, ysgogi diddordeb, a sicrhau bod ein celfyddydau traddodiadol yn parhau i fod yn rhan greiddiol berthnasol o’n bywyd diwylliannol a’n hunaniaeth ddiwylliannol fywiog.
-
Sefydlwyd Trac Cymru ym 1997 gan griw o gerddorion a chefnogwyr gwerin a oedd yn rhannu cred ym mhwysigrwydd a gwerth ein diwylliant traddodiadol, ymwybyddiaeth o’i berthnasedd parhaus i’r presennol, ac awch am rannu’r hyn sydd gan y traddodiadau hyn i’w gynnig.
Trac Cymru was formed out of a need to draw attention to and provide a development focus for Wales’ folk music and dance traditions, so that they might be supported and nurtured on a par with other classical and contemporary music and cultural genres.
-
Mae Trac Cymru ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth werin a dawns, o ddechreuwyr pur, artistiaid newydd a gweithwyr proffesiynol, i gymunedau lleol, ysgolion a grwpiau ieuenctid. Rydym yn gweithio gyda cherddorion, dawnswyr, cantorion a chefnogwyr fel ei gilydd, gan rannu’r gorau o’r hyn sydd gan gelfyddydau traddodiadol Cymru i’w gynnig.
Os oes gennych chi ddiddordeb yng nghelfyddydau gwerin Cymru, beth bynnag fo’ch oedran neu’ch cyfnod, mae gennym ni rywbeth i’w rannu gyda chi.
-
Mae celfyddydau traddodiadol Cymru yn garreg sylfaen yn hunaniaeth ein cenedl. Mae ein cerddoriaeth, ein cân, ein cerdd dant, ein dawns, a’n hadrodd straeon yn cario ac yn mynegi ein hanes, ein hieithoedd, ein diwylliant a’n ffordd o fyw nodedig. Mae'r ffurfiau creadigol hyn yn rhan annatod o'n diwylliant, ac mae'r gwerthoedd a'r emosiynau y maent yn eu mynegi yn ein clymu ynghyd.
At Trac Cymru, we’re passionate about renewing and reinvigorating these forms of expression, both to inspire our younger generations and honour the craft of our tradition bearers. Without support and stimulation, these more traditional forms lose out investment and are in danger of becoming museum pieces, rather than a living folk tradition, which informs our contemporary culture and sense of identity.
Our folk music and dance traditions continue to delight and intrigue both at home and abroad. At Trac Cymru, we advocate on behalf of the sector with Government and core agencies to keep our folk culture firmly on the agenda alongside other forms. We also support amateur and professional musicians as well as audiences regardless of age, language and race and across borders; to access, celebrate and share in the very best representation of our folk music culture and ensure it remains at the core of Wales’ cultural heart and soul.
-
Mae Trac Cymru yn ymgysylltu ac yn gweithio mewn partneriaeth ar brosiectau gyda llawer o sefydliadau ac unigolion, a chyda’r ystod o grwpiau a chymdeithasau diddordeb arbenigol sy’n rhan o wead sîn gwerin Cymru. Fodd bynnag, mae gennym rôl datblygu strategol ar gyfer traddodiadau gwerin Cymru gyfan, gyda ffocws ehangach ar gelfyddydau gwerin a datblygu sgiliau/gyrfa.
While we are advocates of safeguarding the traditional folk forms, we also have a clear view to the future and actively encourage our young and emerging performers to develop the traditional forms to ensure that ours remains a living folk tradition.
-
Rydym yn cynnig cymorth, arweiniad a gwybod sut, ond nid cyllid uniongyrchol. Ar gyfer digwyddiadau arddangos, bydd Trac Cymru yn dewis perfformwyr addas ac yn gwneud cais am gyllid i alluogi costau teithio a chyflwyno; ond nid ydym yn rhoi grantiau yn uniongyrchol i berfformwyr. Yn yr un modd, mae ein rhaglenni hyfforddi a chyrsiau preswyl yn cael cymhorthdal i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn hygyrch.

Cymerwch Rhan
Cymerwch Ran Siapio dyfodol celfyddydau gwerin Cymru drwy ddod yn ymddiriedolwr neu ymuno â’n rhwydwaith o weithwyr llawrydd…