
Adnoddau
Croeso! Dyma'r lle i ddarganfod ystod eang o adnoddau dysgu. Rydym yn deall y gall fod yn frawychus gwybod ble i ddechrau, felly rydym wedi argymell pedwar gweithgaredd ymhellach i lawr y dudalen hon i'ch helpu i ddechrau arni. Peidiwch ag anghofio edrych ar ein siop am fwy o adnoddau!
Ddim yn siŵr ble i ddechrau?
-
Cymerwch olwg ar Alawfa Cymru/Tunery Wales - mae'r gyfres YouTube fer hon yn mynd â chi drwy 20 o alawon cyfoes Cymreig. Rhowch gynnig ar ddysgu un!
-
Mae ein cyfres fer Clocsio gyda Beth yn eich arwain trwy gamau dawns y gall unrhyw un eu dysgu, dim angen clocsiau. Dewch o hyd i le fflat braf a phâr o esgidiau cyfforddus, a dysgwch rai pethau sylfaenol!
-
Adeiladwch eich repertoire o ganeuon gwerin traddodiadol o Gymru gydag Arfon Gwilym, un o’n prif gynheiliaid traddodiad. Mae Arfon, gyda chymorth Trac Cymru, wedi creu’r casgliad ffynhonnell hwn ar gyfer cantorion er mwyn sicrhau bod y caneuon traddodiadol hyn ar gael yn eu ffurf buraf: llais digyfeiliant.
-
Ydych chi erioed wedi gweld ffigwr penglog ceffyl cyfriniol yn canu caneuon o amgylch eich tafarn leol a heb unrhyw syniad beth sy'n digwydd? Dysgwch am y Fari Lwyd, hen draddodiad Cymreig sy'n dal i gael ei ymarfer ar hyd a lled y wlad heddiw!