Clocs Canton

Clocs Canton
Mae Clocs Canton yn grŵp dawns Forys Gogledd Orllewin (ffurf nodweddiadol ar ddawnsio Morys, sy’n defnyddio clocsiau) wedi’i leoli yng Nghaerdydd. ‘Rydym yn perfformio mewn amryw o ddigwyddiadau – ffeiriau, gwyliau ac mewn tafarndai o gwmpas Caerdydd ac ymhellach oddi cartref.
Lliwiau Cymru, sef coch, gwyn a gwyrdd yw lliwiau’n dillad dawnsio ac ‘rydym yn defnyddio garlantau a baneri bach o liwiau melyn a gwyrdd i gynrychioli’r daffodil a’r genhinen. Mae ein band o gerddorion yn chwarae ffidlau, melodionau, gitâr ac offer taro. Mae croeso i gerddorion newydd ymuno â ni.
Ar bob cyfrif, cysylltwch â ni os oes diddordeb gyda chi mewn cymryd rhan – ‘rydym wastad yn croesawu dawnswyr newydd, p’un ai ‘rydych yn brofiadol neu beidio! Mae’r dawnsiau yn weddol hawdd i’w dysgu (wir!) ac hefyd mae’n ffordd hwylus o gadw’n heini.
Os ‘dych chi’n trefnu digwyddiad gallwn ddod â thipyn o liw iddo – ‘dyn ni’n hoff iawn o ddifyrru torf ac yn hoffi cynnwys y gynulleidfa yn ein perfformiad.

Clocs Canton are a North West Morris dance group based in Cardiff, South Wales. We were formed in 1986 and dance North West Morris which is a distinctive type of morris using clogs. We perform at a variety of events – fetes, festivals and in pubs both around Cardiff and further afield.
Our dance kit is in the Welsh colours of red, white and green and we use both garlands and wavers, coloured yellow and green to represent the daffodil and leek.
We have a band of musicians who provide our music using fiddles, melodeons, guitar and percussion. New musicians are also very welcome to join us.
Please contact us if you are interested in taking part – new dancers, experienced or not, are always welcome! The dances are fairly easy to learn (honest!) and it’s also an enjoyable way to keep fit. If you are organising an event we can bring a real touch of colour to it – we love to entertain a crowd and like to involve the audience in our performance.