Mae Tegid Rhys yn creu cerddoriaeth sydd yn gymysgedd o acwstig traddodiadol, amgen a gwerin seicedelig gyda naws electronig atmosfferig, sy’n creu profiad cerddorol awyrol, sy’n plethu gyda’i lais bregus ond angerddol. Yn frodor o Lŷn, mae’r bobl, y tir, y môr, a diwylliant yr ardal yn amlwg trwy ei ganeuon cain a thyner sy’n swyno’r gwrandäwr i’r ymdeimlad o agosatrwydd.
Tegid Rhys creates beautiful music that weaves traditional acoustic, alternative and psychedelic folk with chilled out electronica, which creates an ambient musical experience, which fits with a fragile but passionate voice. As a native of Llŷn, the people, the land, the sea, and the culture of the area are evident through his delicate and tender songs that beguiles the listener into a sense of intimacy.