Skip to main content
Catrin O’Neill
Magwyd Catrin O’Neill ger y môr yn Aberdyfi, De Eryri, wedi ei amgylchynu gan gyfoeth o gerddoriaeth a diwylliant traddodiadol Cymreig. Ei Nain oedd un o’r rhai cyntaf i’w chyflwyno i hud caneuon gwerin traddodiadol, a byddai’n eu canu yn y gegin wrth ymyl yr Aga gynnes a phaned o de yn ei llaw. Ei hiwmor a’i gallu i adrodd stori, gan gludo’r gynulleidfa i leoedd yn y gorffennol a’r presennol, sy’n ei gwneud yn wahanol i gantorion gwerin eraill. Mae’n chwarae yn unigol yn aml ond hefyd fel rhan o ddeuawd neu driawd yn cynnwys y delyn, y ffidl, bouzouki a chwiban. Catrin hefyd yw prif ganwr Allan yn y Fan, un o fandiau gwerin traddodiadol mwyaf adnabyddus Cymru ac mae’n aelod hefyd o 10 mewn Bws. Mae wedi teithio’n helaeth yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon ac Ewrop ac mae’n perfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Catrin O’Neill grew up by the sea in Aberdyfi, Southern Snowdonia, surrounded by a wealth of traditional Welsh music and culture. Her Grandmother or Nain, was one of the first to introduce her to the magic of traditional folk songs, often sung in the kitchen beside the warm Aga with a cup of tea in hand. It is her humour and ability to tell a story, transporting the audience to places past and present, that really set her aside from other folk singers. She often plays solo but also as a duo or as part of a three piece incorporating harp, fiddle, bouzouki and whistle. Catrin is also the lead singer of Allan yn y Fan, one of Wales best known traditional folk bands and is a member of the 10 mewn Bws collective. She has toured extensively in the U.K. Ireland and Europe and performs in Welsh and English.
Tagiau / Tags

Skip to content