
Y Delyn Deires: Offeryn Mwyaf Eiconig Cymru
Erthygl gan Robin Huw Bowen
Roedd y syniad o gael mwy nag un rhes o dannau ar delyn i hwyluso chwarae hapnodau cromatig, yn sicr yn adnabyddus yn Sbaen a’r Eidal yn ystod y Dadeni. Erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, roedd yr Eidalwyr wedi datblygu’r cynllun o gael tair rhes lawn arni – dwy res mewn unseiniau diatonig gyda’r drydedd res rhyngddynt yn y canol yn cynnal yr hapnodau. Golygai hyn y gellid chwarae’r nodau cromatig gyda’r naill law neu’r llall.
Fe gydiodd y syniad, ac fe ledodd y Delyn Deires drwy Ewrop i ddod yn brif delyn cyfnod y Baroque. Cyfansoddodd rhai fel Monteverdi ac yn ddiweddarach Handel ar ei chyfer. Fe gyrhaeddodd Lundain erbyn canol yr 17eg ganrif, lle roedd telynorion Cymreig arfer mynd byth oddi ar i’w noddwyr traddodiadol ymysg y fonedd Gymreig droi eu bryd yno ar ôl Deddf Feddiannu y brenin Seisnig Harri VIII ym 1536. Buasent yn sicr yn ddigon awyddus i droi eu llaw at yr offerynnau a’r gerddoriaeth ffasiwn-newydd o’r Cyfandir.
Wrth iddynt ddod â hi adref i Gymru wedyn, fe gydiodd y Deires ymysg telynorion y Gogledd i ddechrau, ym Meirionnydd yn arbennig. Erbyn canol y 18ed ganrif, wedi iddi ddisgyn allan o ddefnydd yng ngweddill Ewrop, cafodd y Deires ei choroni fel telyn genedlaethol y Cymry, a’i hanes go iawn (naill ai o ddifri, neu jest yn gyfleus!) yn cael ei hanghofio.
Ond er gwaetha ei gwreiddiau yn yr Eidal, fe ymsefydlodd y Deires yn gadarn yng Nghymru, ac fe’i derbyniwyd ac yn wir fe’i magwyd fel offeryn Cymreig. Yn y diwedd, dan ddylanwad ein dawn greadigol genedlaethol, daeth y dull o’i chanu, ei repertoire, a’r dehongliad o’i cherddoriaeth yn rhywbeth gwirioneddol Gymreig, ac yn rhywbeth y gellid ei hadnabod felly. O ganlyniad, teg yw dweud mai’r Delyn Deires yw’r unig wir delyn Gymreig. Erbyn hyn mae’n unigryw i Gymru fel traddodiad llafar di-dor ers dros dri cant o flynyddoedd, ac mae ei chân, a llais ‘pefriol’ ei thair rhes o dannau lawn mor unigryw â’r iaith Gymraeg ei hun.
Senedd yr ymrysonau – y ddeudu O ddedwydd gydleisiau, Anian i gyd yno’n gwau Iaith enaid ar ei thannau. Dewi Wyn o Eifion / Senate of all discord – the two sides Of joyous unisons, All passion there weaving The Language of the Soul on her strings
Mwy gwybodaeth at www.teires.com
Ffoto o The Metropolitan Museum of Art
Isod mae rhai dyfyniadau am y Delyn Deires, yn ogystal â thri fideo - un gyda Robin fel rhan o'n prosiect Tune Chain, yr ail gan Ty Gwerin, a'r trydydd gan yr afradlon Cerys Hafana.