Mae cerddoriaeth yn bersonol, yn gymdeithasol ac yn ddolen fyw rhwng ein gorffennol a'n dyfodol. Mae prosiect 2013 Tune-Chain yn gyfres o ffilmiau byr sy'n dangos y ffordd y mae cerddorion traddodiadol yn dysgu ac yn rhannu cerddoriaeth. Cyfrannodd naw o’n cerddorion gwerin proffesiynol gorau, gan gynnwys rhai enwau arwyddocaol yn y sin gerddoriaeth Gymraeg, eu straeon, eu cysylltiadau a’u halawon i’r prosiect. Mae’r ffidlwyr Robert Evans a Gerard KilBride, y pibydd Gafin Morgan, yr acordionyddion Beth Williams Jones a Stephen Rees, maestro’r delyn deires Robin Huw Bowen, y telynores a’r gantores Gwenan Gibbard, y ffliwtydd Ceri Rhys Matthews a’r ffidlwr Elsa Davies yn creu cadwyn gerddorol yn chwarae cerddoriaeth maen nhw wedi’i dysgu a’i haddysgu ac yn siarad am yr hyn y mae cerddoriaeth draddodiadol yn ei olygu iddyn nhw fel cerddorion ac fel pobl.

Mae pob fideo rhwng pedair a deg munud o hyd ac yn cynnwys un cerddor yn chwarae un neu ddwy dôn, gan arwain at y ddolen nesaf yn y gadwyn. Wedi’i chreu a’i chyd-gynhyrchu gan Gerard KilBride a Rhodri Smith, mae’r gyfres sydd wedi’i ffilmio’n hyfryd yn ymweld â’r naw cerddor yn eu cartrefi, eu ceginau a’u gweithdai. Er eu bod wedi’u ffilmio gan ddefnyddio offer clyweled technoleg isel – iphones, fflip-gamerâu a chamcorders bach â llaw – mae’r fideos yn gameos coeth sy’n archwilio cerddorion traddodiadol ‘yn eu cynefin brodorol’. Gobeithiwn y byddwch yn eu mwynhau ac yn anfon eich Cadwyn Alaw eich hun atom i'w rhannu! Dewch o hyd i'r 3 fideo cyntaf yma ac ewch i'n sianel YouTube i gael y rhestr chwarae lawn yma.

Cyfres Tune Chain

  • "Masterful playing & interpretation by Wales' finest."

    - YouTube comment

  • "The finest footage of the Triple I've ever seen. Wonderful upload - many thanks (ten years late) for making it available."

    - YouTube comment