Datganiad gan Gyfarwyddydd trac, Danny KilBride, ar ran Ymddiriedolwyr a staff trac.

Gyda thristwch mawr rhaid i trac nodi bod y Sesiwn Fach, a ddarlledir ar BBC Radio Cymru, wedi dod i ben. O dan arweiniad y cyflwynydd Idris Morys Jones, roedd yn agor ffenestr ar ein traddodiadau, ein cerddorion ac, yn bwysicach oll, ar ein caneuon. Hon oedd yr unig raglen yn yr iaith Gymraeg a oedd yn canolbwyntio ar ein cerddoriaeth frodorol ac a oedd wedi llwyddo i gasglu cynulleidfa fach ond teyrngar o gerddorion a chefnogwyr selog fel ei gilydd. Mae Idris yn unigolyn cwbl broffesiynol ac ‘rydym yn siwr y bydd yn ail-ymuno â’n tonfeydd radio gyda rhaglen sy’n siwtio – mewn modd  llawn cystal – y brwdfrydedd a’r angerdd y mae’n dangos tuag at ddiwylliant Cymreig.

‘Rydym yn deall paham y mae’r BBC wedi dod â’r rhaglen i ben, ond hefyd yn gobeithio gweld newidiadau positif o du Radio Cymru. Mae’r trefniant dros dro gyda Georgia Ruth, sef bod awr o’i rhaglen hi yn canolbwyntio ar Ganu Gwerin, yn sicrhau y bydd o leiaf awr o’n cerddoriaeth i’w chlywed ar ein darlledwr cenedlaethol, ac ar gael ar Radio Player y BBC.

Es i i ymweld â Radio Cymru i drafod y mater dan sylw. ‘Roedden ni am iddynt ddeall na allai trac groesawu colli’r Sesiwn Fach heb wybod bod cynlluniau ar y gweill i sicrhau y bydd cerddoriaeth werin Cymru yn cael ei chlywed ar ein prif ddarlledwr cyfrwng Cymraeg.  Cawson ni drafodaeth eang am gynnwys, rhestrau chwarae a sut y gallwn ddod â cherddoriaeth werin o’r “geto arbenigol” a chynnwys y cyfan yn rhestrau cerdd prif ffrwd yr orsaf. Mae’r sgwrs yn un sy’n parhau, ac mae’r syniadau yn cael eu profi, eu coethi a’u hail-ddychmygu cyn y byddant yn cyrraedd eu ffurf terfynol.

Mae canran sylweddol o’n cynulleidfa, yn sicr dwbl y gynulleidfa sy’n gwrando ar jazz a phedair gwaith y rhai sy’n mwynhau gwrando ar opera a cherddoriaeth glasurol, yn gwrando ar “gerddoriaeth werin, gwreiddiau a thraddodiadol” ac, yn ein cymunedau iaith Gymraeg, nid yw’r bwlch mesuradwy rhwng Canu Gwerin a genres eraill mor arwyddocaol ag y mae mewn cymunedau o siaradwyr Saesneg oherwydd ein bod ni yn “berchen ar” ein traddodiadau mewn ffyrdd gwahanol. Yn rhannol, mae hyn yn esbonio llwyddiant Tŷ Gwerin, partneriaeth hynod llwyddiannus trac gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Ond mae’n rhaid i ni ddal ati gyda’r gwaith o gynnwys ein traddodiadau yn ein bywyd cenedlaethol ac mae hyn yn golygu dod o hyd i ffyrdd newydd o’u cyflwyno ar Radio Cymru, Radio Wales a’n holl rwydweithiau darlledu. “Ni” y Cymry, beth bynnag yw ein hiaith, yw’r hynaf o gymunedau Ynys Prydain ac mae angen i’n lleisiau ni gael eu clywed mewn ffordd gyfartal.