Clwb Dawnsio Gwlad Casgwent

Lleoliad / Location:
Monmouthshire
Tagiau / Tags:

‘Rydym yn cwrdd bob nos Fercher, rhwng 7.30 a 9.30yh yn yr ystafell achlysuron yng Nghlwb Casgwent, 10 Moor St, Casgwent NP16 5DD. Mae’n ffordd da o gadw’n heini. Rydym yn credu ei fod yn bosib cerdded 6000 cam gyda ni mewn noson. Mae croeso i bawb. Nid oes angen dod â phartner. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Rhoddir cyfarwyddyd llawn ar gyfer pob dawns. Mynediad £3 yr un

‘Rydym yn dysgu dawnsiau amrywiol – o ddawnsiau hanesyddol Prydeinig hyd at ddawnsio cyfoes, ynghyd ag amrywiaeth dda o ddawnsiau Cymreig a dawnsiau contra a sgwâr Americanaidd. Clwb yw hwn, nid gweithdy, felly mae’r pwyslais ar fwynhau’r dawnsio – nid ydym yn trin dawnsio fel ymarfer academaidd! Mae’r oedrannau’n amrywio o 10 i 85 – prawf ystadegol bod dawnsio’n eich cadw chi’n ifancach. ‘Rydym yn croesawu galwyr gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac mae llawer ohonom yn cefnogi’r ceilidhs lleol.