
Mae’r bibgod wedi ei chofnodi yng Nghymru ers y 12fed ganrif o leiaf. Yn y 10fed ganrif, ac mewn fersiynau mwy diweddar yn dyddio o’r 12fed a’r 13eg ganrif, roedd Cyfreithiau Hywel Dda yn cynnig gwybodaeth am statws cerddoriaeth yng Nghymru. Mae’r gyfraith yn datgan y dylai’r brenin gydnabod statws y meistri o grefftwyr a oedd yn ei wasanaethu drwy roi offeryn addas i bob un, sef telyn, crwth neu bibgod. Cynhaliodd yr Arglwydd Rhys wledd Nadolig yn Aberteifi yn 1176; dyma ddechrau’r Eisteddfod, yr ŵyl sy’n adnabyddus i ni heddiw.
“Adeg y Nadolig y flwyddyn honno, cynhaliodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd ei lys mewn ysblander yn Aberteifi, yn y castell. Ac fe osododd ddau fath o gystadleuaeth yno: un rhwng yr amrywiol feirdd a phrydyddion, a’r llall rhwng y telynorion a’r crythorion a’r pibyddion a’r gwahanol ddosbarthiadau o grefftau cerddorol. Ac fe orchmynodd bod dwy gadair yn cael eu gosod i’r enillwyr”
Ond gyda dirywiad cyffredinol cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn y 19eg ganrif, diflannodd y bibgod o’r tir. Nid oes yr un enghraifft bendant o’r bibgod a ddefnyddiwyd yng Nghymru wedi goroesi, ond mae lluniau a cherfluniau ar gael sy’n dangos math o bibgod sy’n debyg iawn i’r rhai a ddefnyddir yn Llydaw ac yng Ngalisia. Ambell waith, cyfeirir at yr rhain wrth yr enw ‘Pibgod yr Iwerydd’. Mae hefyd ddisgrifiad o Sir Fôn o offeryn, sydd efallai yn bibgod, a chwaraewyd gan gowmyn; mae iddi gorn buwch yn sownd wrth yr alaw bib, ac mae’n bur debyg taw pibgorn gyda chwd oedd hon.
Y Pibau Cymreig a Phibgorn
Lluniau o Gyfres Trac Cymru Tune Chain
Dros y 40 mlynedd ddiwethaf mae pibydda wedi gweld adfywiad yma yng Nghymru. Mae’r repertoire o alawon Cymreig i’r pibau wedi cael ei ail-ddarganfod a’i ddatblygu; mae’r offerynnau, yn seiliedig ar bibau o Lydaw a Galisia, wedi cael eu datblygu, ac mae defnydd yn cael ei wneud o bibau o’r ardaloedd hynny.
Y Pibgorn Cymreig Mae gan yr alaw bib geg corn buwch sy’n gorchuddio ac yn gwarchod y gorsen, a chloch o gorn buwch i fwyhau’r sain. Corsen sengl, wedi’i gwneud fel arfer o wiail neu ddeunydd synthetig, sydd i’r offeryn ac mae nifer o esiamplau, yn dyddio o’r 18fed a’r 19eg ganrif, wedi goroesi. Mae’n debyg taw’r pibgorn yw rhagflaenydd y bibgod, a bod y god wedi’i chysylltu â’r alaw bib i wneud hi’n haws chwarae’r offeryn, fel y mae’r disgrifiad uchod o Sir Fôn yn awgrymu. Gelwir rhain yn bibau corn/cyrn. Mae’r bibgod a chwythir o’r geg yn cynnwys alaw bib corsen sengl, corn i fwyhau’r sain a bâs drôn. Ar hyn o bryd mae Gafin Morgan wrthi’n creu pibgorn cwbl synthetig ar gyfer dechreuwyr, plant neu at ddefnydd mewn ysgolion ayyb. Mae’r gwneuthurwr offerynnau, Gerard KilBride, wedi llunio gwefan sy’n rhoi cyfarwyddyd i chi o sut i wneud pibgorn o bren ysgaw; ewch i www.pibgyrn.com
Dros benwythnos Mehefin 22-24ain 2012, cynhaliwyd yr Ŵyl Bibgorn gyntaf ym Mhontsticyll, Merthyr Tydfil – Gŵyl Pibgyrn Pontsticill – wedi’i threfnu gan Gerard KilBride a’r pibyddion lleol Gafin Morgan ac Antwn Owen-Hicks, gyda chymorth gwirfoddolwyr o Fagad Pibau Morgannwg. Gobethiwn y gynhelir yr ŵyl ar ryw adeg yn y dyfodol.
Diolch i Antwn Owen Hicks a Gafin Morgan am y wybodaeth.
Isod mae rhagor o ddyfyniadau o wahanol ffynonellau hanesyddol am bibau a phibau yng Nghymru, yn ogystal â dau fideo yn dangos Gafin Morgan yn chwarae’r pibgorn a’r pibau Cymreig fel rhan o’n prosiect Tune Chain!