
Y Fari Lwyd: Y Ceffyl Gaeaf
Mae’r Fari Lwyd yn unigryw Gymreig, ond hefyd yn rhan o draddodiad sy’n ymestyn ar draws Ewrop a thu hwnt, ac yn ôl i gyfnod y ffigyrau siamanaidd cynharaf yn eu mygydau anifail a welir mewn paentiadau mewn ogofau. Mae arferion tymhorol, yn cynnwys caneuon a rhannu bwyd a diod yn digwydd trwy gydol y flwyddyn, ond mae defod ganolgaeaf sy’n canolbwyntio ar geffyl yn ein cyfeirio at fath arbennig o arfer gwerin.
Mae’r ceffyl – ac yn arbennig y Ceffyl Gwyn – wastad wedi hawlio lle eiconig ym mytholeg ac ymwybyddiaeth Ynysoedd Prydain. Meddyliwch am y ceffylau a dorrwyd i sialc y Downs; neu Rhiannon y Mabinogi sydd, yn ôl yr ysgolheigion, yn cyfateb i’r dduwies Epona; neu’r tabw traddodiadol sy’n bodoli ym Mhrydain yn erbyn bwyta cig ceffyl, heb sôn am y llu o arferion gwerin megis y Padstow Obby Oss neu Hooden Hoss Sir Gaint.
Mae traddodiad cryfaf a mwyaf hir-hoedlog y Fari Lwyd i’w weld yn Llangynwyd yn Ne Cymru, ond mewn mannau eraill mae’r traddodiad wedi’i ail-sefydlu ers sawl degawd. Peth byw sy’n cael ei adnewyddu o hyd ac o hyd yw traddodiad; fel arall mae’n dirywio i statws ail-greu hanesyddol. Mae ‘na lawer o amrywiadau ar draddodiad y Fari Lwyd ar draws Cymru. Yng ngogledd ddwyrain Cymru mae’r Fari yn rhan o ddathliadau Cadi Ha Calan Mai. Mae gan (neu’n hytrach, roedd gan) Sir Fôn a Gwyr eu harferion Mari penodol eu hunain. Mae partïon Mari yn weithredol ledled Cymru, ac mae rhai newydd yn cael eu sefydlu yn flynyddol. Mae hynodrwydd lleol yn beth braf, felly dewch o hyd i’ch traddodiad lleol, yn fyw neu’n farw, a’i addasu er mwyn rhoi bywyd newydd iddo.
Ffotos o Amgueddfa Cymru
O’r holl arferion ceffyl a welir yn Ynysoedd Prydain, dim ond y Fari Lwyd sy’n rhoi amlygrwydd i gystadleuaeth farddoni. Efallai bod y Pwnco yn her mewn rhai ardaloedd o Gymru yr 21ain ganrif nawr bod beirdd gwlad yn brinnach, ond p’un ai eu bod wedi’u dysgu neu’n fyrfyfr, mae’r geiriau yn a’r gystadleuaeth yn rhoi’r cyfle i gynnwys cyfeiriadau lleol ac amserol, ac yn arddangos cariad traddodiadol y Cymry at iaith a barddoniaeth.
Yn draddodiadol, ‘rydym yn adnabod y Fari Lwyd fel penglog ceffyl ar bolyn, wedi’i addurno gyda rhubannau a chlychau, ac yn ‘gwisgo’ gwaelodion poteli yn lle’r llygaid. Yn gynyddol y dyddiau hyn, mae Maris newydd yn adlewyrchu dychymyg eu partïon. Mae ‘Mari Troellog’, o Gaerfyrddin, wedi’i addurno â throellau ac mae ganddo oleuadau LED ar gyfer y llygaid. Mae eraill wedi’i chwistrell-baentio’n lliw aur neu wedi’i addurno gyda blodau, ac yng nghymunedau ac ysgolion ar draws y wlad, ‘rydym wedi gweld y Fari Lwyd pac-fflat yn codi helynt mawr!
Teithiodd Trac Cymru o amgylch y wlad yn cyflwyno gweithdai i ysgolion a grwpiau cymunedol ar y Fari Lwyd, gan weithio gyda selogion lleol i ddod â chymunedau ynghyd i ddysgu am y traddodiad Cymreig unigryw hwn. Darllenwch fwy amdano yma! Cyhoeddwyd llyfryn darluniadol hardd fel rhan o'r prosiect. Ynddi mae’r hanesydd Rhiannon Ifans yn egluro hanes yr arferiad ac yn rhoi fersiynau o nifer o ganeuon Mari ynghyd â chyfieithiadau o’r penillion.
Creodd Trac Cymru git Mari Lwyd, sydd ar gael i’w gwerthu gyda’r llyfr neu hebddo, ac mae wedi’i wneud o gardbord wal ddwbl trwm a fydd, o’i gryfhau â phapier maché a farnais, yn wydn ac yn dal dŵr. Mae'r pecynnau bach a mawr wedi bod yn boblogaidd iawn fel adnoddau addysgol ar gyfer cyrff ysgol, yn ogystal â phobl o bob rhan o'r byd sydd eisiau gwneud rhai eu hunain. Am fwy o fanylion, ewch i'n siop lle gallwch brynu eich un eich hun!